Skip to main content

Teitl: Ymgynghoriad Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2020-2024

Nodwch! Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben, a bydd adroddiad ar gael yn y Flwyddyn Newydd.
Lansiodd y Cyngor ei Gynllun Corfforaethol cyntaf 'Y Ffordd Ymlaen' yn 2016. Roedd y Cynllun wedi gosod cyfeiriad gwaith y Cyngor am bum mlynedd, gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer gwella a chanolbwyntio ar dri maes gwaith a fyddai’n gwella bywydau’r bobl a’r cymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni bellach yn edrych ar yr hyn mae angen i ni ei wneud dros y pum mlynedd nesaf ac mae angen eich help arnon ni.

Rydyn ni eisoes wedi edrych ar y cynnydd wedi'i wneud ledled RhCT ers 2016, yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni ei wneud a'r hyn sydd o bwys i'n preswylwyr. Rydyn ni'n meddwl bod ein tair blaenoriaeth yn dal yn berthnasol ond mae angen i ni wirio hyn.

Mae modd gweld y manylion llaw yn Adroddiad y Cabinet

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben am 5pm, 17 Ionawr 2020.

Blaenoriaethau wedi'u cynllunio:

Pobl: Helpu ein trigolion sy'n hŷn, yn agored i niwed neu sydd ag anableddau i gael bywyd o ansawdd da.

Lleoedd: Cadw RhCT yn lân trwy wasanaethau glanhau'r stryd effeithlon, lleihau'r gwastraff rydyn ni'n ei anfon i'r safle tirlenwi, cyflawni ein targedau ailgylchu trwy gasglu gwastraff ailgylchu bob wythnos a gwastraff cyffredinol yn rheolaidd, a lleihau ein hôl-troed carbon.

Ffyniant: Buddsoddi mewn canol trefi, dod â swyddi a chartrefi i ganol ein trefi i greu lleoedd bywiog, ffyniannus y mae pobl eisiau byw, gweithio a chymdeithasu ynddyn nhw.

 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau a chynllun. Cewch chi hefyd ddweud eich dweud!

Ewch i'n gwefan Cynllun Corfforaethol

 

Os ydych chi'n aelod o grŵp neu sefydliad sydd eisiau rhoi ymateb ar y cyd, rydyn ni wedi llunio Pecyn Cymryd Rhan – e-bostiwch ni am fanylion.

Achlysuron Ymgysylltu – Dyddiadau a lleoliadau i'w cadarnhau cyn bo hir.

Dweud eich dweud trwy e-bost - ymgynghori@rctcbc.gov.uk

Ysgrifennu aton ni -

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX