Skip to main content

Ymgynghori - gwybodaeth gyffredinol

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn croesawu'ch barn am ei fod yn awyddus i wneud yn siŵr bod ei wasanaethau'n diwallu anghenion ei gymunedau.

Byddwn ni'n ymgynghori â rhanddeiliaid amrywiol drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig pan fyddwn ni'n trefnu'r gyllideb flynyddol, ac rydyn ni eisiau clywed eich sylwadau chi ynglŷn â’r hyn y dylen ni fod yn gwario'r arian arno, a beth ddylai'n blaenoriaethau ni fod.

Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymuno â'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru. Y bwriad yw sicrhau bod pob ymgynghoriad ac achlysur yn cydymffurfio â'r egwyddorion pan fo hynny'n bosibl.

Bwriad y 10 egwyddor yw llywio sut mae achlysuron yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau eu bod nhw o ansawdd uchel, yn agored ac yn gyson wrth ymgysylltu â'r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau.

 

Dewch yn rhan o Banel y Dinasyddion

Mae Panel y Dinasyddion yn grŵp o drigolion sy'n darparu'r Cyngor gyda chymorth gwerthfawr sy'n deall yr anghenion, sylwadau, profiadau a disgwyliadau trigolion a defnyddwyr gwasanaeth lleol.

A chithau'n aelod o'r Panel, efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi yn ystod y flwyddyn a gofyn ichi gymryd rhan mewn gweithgareddau - ymuno â grwpiau ffocws, mynychu cylchoedd trafod neu lenwi holiaduron. Bydd hynny'n rhoi'r cyfle ichi ddod yn rhan o brosesau llunio gwasanaethau yn Rhondda Cynon Taf a rhannu'ch barn gydag eraill.

RhCT Gyda'n Gilydd

RhCT Gyda’n Gilydd ydy agwedd flaengar y Cyngor i ddod â thrigolion a chymunedau yn rhan o bethau. Y nod yw chwilio am ddulliau gwahanol o gynnal gwasanaethau a chyfleusterau gyda’n gilydd yn y dyfodol. 

Mae Rhagor O Wybodaeth Yngyln ag rhct gyda's gilydd yma

Fforymau i Bobl Hŷn

Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Chylchoedd Trafod 50+ Rhondda Cynon Taf ac yn eu cynorthwyo. Mae Aelodau a swyddogion yn mynychu'r Cylchoedd Trafod a'r cyfarfodydd er mwyn ymgysylltu â grŵp cynhwysol ac amrywiol sy'n cynrychioli pobl 50 oed a hŷn. Mae ystod eang o faterion yn cael eu trafod, gan gynnwys y newidiadau diweddar i'r gwasanaethau.

Mae 5 o Gylchoedd Trafod 50+ yn Rhondda Cynon Taf sydd ag aelodaeth o dros 500 o bobl. Mae'r rhain yn cael eu goruchwylio gan y Grŵp Cynghori Pobl Hŷn (OPAG).  

Cwm Rhondda Uchaf – cwrdd yn Neuadd y Dderwen, Treorci

Cwm Rhondda – Neuadd Pensiynwyr Ystrad

Cwm Cynon – Canolfan Oriau Dydd y Santes Fair, Aberdâr

Taf-elái – Eglwys Uno Dewi Sant, Pontypridd

Llantrisant – Clwb Athletau Pont-y-clun

Mae rhagor o wybodaeth am yr ystod o faterion sy'n cael eu trafod yn y Cylchoedd Trafod i Bobl Hŷn yma

Fforwm Ieuenctid Rhondda Cynon Taf Gyfan 

Mae'r Cyngor yn ymgysylltu â phobl ifainc mewn amryw o ffyrdd.  Mae Fforwm Ieuenctid Rhondda Cynon Taf Gyfan yn rhoi'r cyfle i bobl ifainc ymgysylltu'n effeithiol â'r Cyngor ac yn rhoi llwyfan sy'n eu galluogi i drafod a dylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw a'u cymunedau.

Mae'r Fforwm yn cael ei gynrychioli gan Gynghorau Ysgol a Fforymau Ieuenctid sy'n bodoli eisoes. Rydyn ni'n ymgynghori â'r Fforwm ynglŷn ag unrhyw gynigion i newidgwasanaethau, ymgynghoriadau strategaeth cyllideb ac unrhyw faterion eraill a all effeithio ar bobl ifainc a'u teuluoedd.

Manylion cyswllt

E-bost: Ymgynghori@rhondda-cynon-taf.gov.uk