Skip to main content

Wella darpariaeth Dosbarth Cynnal Dysgu cyfrwng Cymraeg Rhondda Cynon Taf

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi ymgynghori ar gynigion i ad-drefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn y Fwrdeistref Sirol.  Yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion, mae Adroddiad Adborth o'r Ymgynghoriad wedi'i baratoi.

Y cynnig yw bydd y Dosbarth Cynnal Dysgu cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sylweddol yn Ysgol Garth Olwg erbyn Medi 2022 fan bellaf.

Mae'r cynnig yma'n cael ei wneud yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion – 2018 (011/2018).

Mae modd dod o hyd i'r Ddogfen Ymgynghori, y deunydd ategol a'r holiadur, isod.

Mae hefyd croeso i chi roi eich barn, neu ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gyda chi mewn ysgrifen at:

Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant

Tŷ Trevithick

Abercynon

Aberpennar  

CF45 4UQ