Skip to main content

Ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd

Bwriwch olwg ar yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf.
TeitlPwncDyddiad diwedd
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
(Llywodraeth Cymru)

Mae Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol, eisiau deall anghenion gofal plant teuluoedd Cymru sydd â phlant rhwng 0 ac 17 oed. Mae'r arolwg yn trafod gwasanaethau gofal plant cofrestredig (e.e. Arolygiaeth Gofal Cymru) a gwasanaethau anghofrestredig (e.e. nanis, au pairs a rhai clybiau chwaraeon neu weithgareddau). Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.  Er hynny, ni all awdurdodau lleol warantu y bydd modd bodloni pob cais am ddarpariaeth gofal plant. Wrth gwblhau'r arolwg, peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol (e.e. enwau, neu ddisgrifiadau o blant, a allai ei gwneud hi’n bosibl iddyn nhw gael eu hadnabod).

 

31 Hydref 2026
Arolwg Llwybrau Beicio Hamdden

Mae carfanau Hamdden a Thwristiaeth y Cyngor yn dymuno adolygu'r llwybrau beicio hamdden presennol. Maen nhw am greu posteri gwybodaeth a chanllawiau ategol – ac rydyn ni angen eich help i gael yr olwynion yn troi!

Mae yna arolwg newydd i gasglu adborth gan y cyhoedd yn ymwneud â'r math o lwybrau yr hoffai pobl eu gweld yn cael eu cynnwys ar y daflen.

Rydyn ni eisiau deall sut mae pobl yn defnyddio'r llwybrau ar hyn o bryd, beth sy'n gweithio'n dda a'r pethau i'w gwella.

31 Hydref 2026

Cysylltu â ni

Hoffech chi fod yn rhan o’r broses ymgynghori? Hoffech chi gael dweud eich dweud ar y materion allweddol? Cysylltwch â'r Garfan Ymgynghori:

Lets-talk-RCT-and-RCT-logo-small