Skip to main content

Arbed arian ar filiau eich cartref

Mae'r Cyngor yn darparu ystod o gymorth i bob trigolyn yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r cymorth yn cael ei ddatblygu'n barhaus, felly bwriwch olwg ar wefan Cyngor Rhondda Cynon Taf a rhannu'r wybodaeth â theulu, ffrindiau, cleientiaid a chydweithwyr.

A wyddoch chi… 

  • Mae £15 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yn y DU - a ydych chi'n un o'r rhai sydd o bosibl â hawl i gael cymorth? Peidiwch â'i gymryd yn ganiataol - gwiriwch, drwy fynd i wefan www.entitledto.co.uk
    Mae'n gyflym ac yn hawdd i'w wneud. Bydd angen eich cyfloglen a gwybodaeth am filiau'ch cartref yn barod arnoch chi.

Rheoli eich biliau 

Mae pawb yn ceisio lleihau biliau eu cartref, ond weithiau mae gormod o wybodaeth ar yr hyn y mae modd i ni ei wneud. Mae'n gallu bod yn llethol. Cliciwch yma i fwrw golwg ar ganllaw gan Salary Finance sy'n edrych ar nifer o awgrymiadau i reoli eich biliau efallai yr hoffech chi roi cynnig arnyn nhw neu eu rhannu â'ch anwyliaid.

Nodwch, gwybodaeth gyffredinol yw'r wybodaeth yma ac NID cyngor personol. 

Am gyngor a chefnogaeth ariannol bersonol, mae modd i chi fynd i wefan Money Helper Service, neu ewch i'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. 

Mae'r BBC hefyd wedi cyhoeddi canllaw gwych wedi'i bersonoli ar sut i arbed arian ar eich costau byw. 

Mae gan Vivup ystod o wybodaeth a chyngor yn ymwneud â dyled a chostau byw: Employee Assistance Programme (yourcareeap.co.uk)