Skip to main content

Arbedion gyda Buddion Staff

Mae amryw o gynlluniau buddion ar gael i helpu aelodau staff Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac mae modd i bob un ohonyn nhw eich helpu chi i arbed arian. Mae hyn yn cynnwys prisiau gostyngol ar siopau bwyd, teithio, siopau manwerthu, bwyta allan a llawer yn rhagor! 

I fwrw golwg ar y buddion yma ac i gael rhagor o wybodaeth am fuddion i staff, ewch i https://rctstaffbenefits.co.uk/
Cofrestrwch gyda'ch cyfeiriad e-bost a rhif adnabod y cynllun: 7282, neu e-bostiwch Buddion Staff Rhondda Cynon Taf ar BuddionStaffRhCT@rctcbc.gov.uk

Yn ogystal â'r rhain, mae'r canlynol hefyd ar gael i staff: 

Ap y Cerdyn Vectis

Lawrlwythwch o Google Play neu’r App Store
Rhif Adnabod y Cynllun: 7282
Porwch drwy'r ap i chwilio am ba fanwerthwyr sy'n cynnig cynigion arbennig yn eich ardal chi. 

Cynllun Cymorth i Brynu Car

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithredu Cynllun Benthyciad i roi cymorth i rai gweithwyr brynu ceir. Yn rhan o'r cynllun, caiff cymorth ei roi drwy fenthyciad, sy'n ad-daladwy gyda llog a chaiff ei ddidynnu o gyflog y cyflogai neu weithiwr cyflogedig yn y ffynhonell cyn gwneud taliadau.
Bwriwch olwg ar nodiadau canllaw'r cynllun, yma
Cliciwch yma am ffurflen gais

Salary Finance

Un o'n buddion i staff yw Salary Finance, darparwr lles ariannol sy'n cynnig benthyciadau fforddiadwy y mae modd eu had-dalu drwy eich cyflog, yn ogystal ag addysg ariannol rhad ac am ddim. Maen nhw hefyd yn cynnal cyfres o weminarau, adnoddau cynilo a gwybodaeth a chyngor ariannol. Mae modd bwrw golwg ar y rhain i gyd ar eu gwefan.

Cynllun taleb gofal plant

I wirio eich cymhwysedd ac am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

Vodafone Advantage. 

Mae Rhondda Cynon Taf yn cyd-weithio â Vodafone i gynnig cynigion a gostyngiadau arbennig i staff Cyngor Rhondda Cynon Taf ar eu bil ffôn. I gael gwybod rhagor ac i lenwi ffurflen gais, cliciwch yma.