Skip to main content

Neges GLIR i Berchnogion Cŵn Anghyfrifol

Mae DWY neges syml yn cael eu paentio ar y llawr mewn lleoliadau allweddol ledled Rhondda Cynon Taf mewn ymgais i atgoffa perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol.

Mae'r negeseuon yn syml – 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU' – ac maen nhw'n rhan o'r ymgyrch gyffredinol i gymryd camau i fynd i'r afael â'r rheiny yn Rhondda Cynon Taf sy'n anwybyddu'r rheolau sydd wedi'u nodi'n rhan o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. 

Ym mis Hydref 2017, roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, pan roddodd Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith. Gan fod y gorchymyn wedi bod mor llwyddiannus, cafodd ei ymestyn ym mis Tachwedd 2020 i barhau i fynd i’r afael â’r mater annymunol yma.

Mae'r mesurau'n cynnwys y canlynol:

  • RHAID i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas
  • RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ar bob adeg
  • Rhaid i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd swyddog awdurdodedig i roi ci ar dennyn
  • Mae cŵn wedi eu GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae i blant, a chae chwaraeon sydd wedi'i farcio sy'n cael eu cadw a'u cynnal gan y Cyngor
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg yn yr holl fynwentydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor

Un o'r pryderon allweddol yr aeth y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i'r afael ag ef oedd baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed os yw'r baw yma'n cael ei godi, mae'r gweddillion yn dal i fod ar y glaswellt a'r pridd, sydd nid yn unig yn ffiaidd, ond gallai hefyd achosi problemau iechyd sy'n newid bywydau.

Mae'r negeseuon ar y llawr, sydd wedi'u hariannu'n rhannol gan Cadwch Gymru'n Daclus yn rhan o'u hymgyrch genedlaethol i fynd i'r afael â baw cŵn, yn defnyddio paent melyn llachar drwy ddull paentio â stensil. Maen nhw i'w gweld mewn mannau poblogaidd lle mae pobl yn mynd â'u cŵn am dro, felly does dim esgus – mae'r neges yno'n GLIR i bawb ei gweld.

Mae'n amlwg na chafodd un o drigolion Treherbert y neges. A hithau heb gi gyda hi, aeth hi am dro adref o'r Llys gyda dirwy o dros £370. Roedd hyn am fethu â chodi baw ei chi ar y llwybr beicio y tu ôl i Stryd Wyndham, Tynewydd, Treherbert. Cafodd hi ddirwy o £220, gorchymyn i dalu costau o £120 a Gordal Dioddefwr o £34.

Mae neges y Cyngor yn glir - os bydd Swyddog Gorfodi yn dod o hyd i berchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn gweithredu ac yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.

Os na chaiff yr Hysbysiad ei dalu, bydd modd i hyn arwain at achos llys, a dirwy llawer yn fwy. Mae'r fenyw dan sylw bellach wedi sylweddoli hyn. Mae'n bosibl y caiff manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar eu cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth:

“Y gobaith yw y bydd y negeseuon yma'n atgoffa unigolion i gael gwared ar faw eu cŵn. Mae gyda ni lawer o berchnogion cŵn cyfrifol ledled Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni'n gwybod nad oes angen eu hatgoffa nhw. Serch hynny, mae yna ychydig o bobl sydd angen eu hatgoffa o hyd. Mae'r neges yn glir - rhowch faw ci mewn bag ac mewn bin a pheidiwch â gadael i'ch ci gerdded ar gaeau chwarae.

“Mae’r euogfarn ddiweddaraf yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â materion baeddu cŵn. Os yw perchennog ci anghyfrifol yn anwybyddu'r negeseuon yma ac yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, byddwn ni'n gweithredu ac yn rhoi dirwy o £100 i chi. Os byddwch chi'n methu â thalu'r ddirwy yma, mae'n bosibl y byddwch chi'n wynebu achos llys ac yn derbyn dirwy fwy yn ogystal â chofnod troseddol, fel y mae'r perchnogion cŵn anghyfrifol yma newydd ddysgu.

“Cafodd rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus eu cyflwyno ar ôl i drigolion ddweud wrth y Cyngor eu bod nhw am weld camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol. Roedd hyn yn cynnwys meysydd fel ardaloedd chwarae sy'n cael eu defnyddio gan blant a chaeau wedi’u marcio lle mae trigolion yn mwynhau chwarae chwaraeon.

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os yw pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

Yn ystod y CHWE mis diwethaf, mae'r Cyngor wedi cyflwyno bron i 140 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rheiny sydd wedi torri'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r holl arian sy'n dod i law yn sgil yr hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen er mwyn gwella ein Bwrdeistref Sirol ac ymateb i'r materion sy'n flaenoriaeth i'n trigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baeddu cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.couk/bawcwn.

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx

Wedi ei bostio ar 25/11/2021