Skip to main content

Lleihau'r perygl llifogydd yn Ynys-boeth gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru

Nant y Fedw culvert grid - Copy

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith gwella cwlfer yn Nant y Fedw, Ynys-boeth, a'r rhan agos o Heol Abercynon, yn ddiweddar – a hynny er mwyn lliniaru perygl llifogydd yn y gymuned.

Mae'r cynllun wedi cynnwys gwella strwythur y gilfach bresennol, a gosod basn gweddillion er mwyn lleihau risg rhwystr yn ystod cyfnodau o law trwm.

Roedd yr elfen yma o'r gwaith wedi elwa ar gyllid Grant Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau gan y Cyngor.

Cafodd llwyfan ei osod fydd yn helpu o ran mynediad at sianel a rhwyll y cwrs dŵr i gynnal gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio yn y dyfodol.

Cafwyd cyllid trwy raglen Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith yma.

Yn dilyn cyflawni'r cynllun, fydd dim angen rhagor o fesurau rheoli traffig ar hyd Heol Abercynon.

Diolch i'r gymuned am ei chydweithrediad yn ystod y gwaith pwysig lleol yma a gynhaliwyd gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT.

Wedi ei bostio ar 29/04/24