Skip to main content

Astudiaeth Achos - Samy Owens

Sammy OwensAr ôl profi ad o weithio yn y sector manwerthu, roedd Sammy’n awyddus i ennill le ar raglen profi ad gwaith “Camu i’r Cyfeiriad Cywir” i weld pa gyfl eoedd oedd ar gael iddi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Ym mis Mawrth 2018, cafodd Sammy le hyfforddi gyda Charfan Plant Anabl. Ar ôl cwblhau FfCCh mewn Plant a Phobl Ifainc, penderfynodd Sammy roi cynnig ar swydd newydd a rhoi cynnig ar rywbeth yn ei maes o ddewis, sef gofal. Aeth i weithio mewn lleoliad preswyl i’r henoed yng Nghanolfan Adnoddau Tegfan yn Nhrecynon.

Treuliodd Sammy gyfnod yn cysgodi ei chyd-weithwyr, ymgymryd â hyfforddiant gofal cymdeithasol a chyd-weithio i feithrin perthnasau gyda’r preswylwyr. Mae Sammy nawr wrthi’n cwblhau camau olaf ei chymwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2, a hynny gyda chefnogaeth carfan o staff Tegfan a’i hasesydd, Sharon. Mae ymrwymiad ac agwedd gadarnhaol Sammy wedi arwain ati’n cael swydd achlysurol gyda Tegfan ers mis Mehefi n eleni.