Skip to main content

Talu am Ofal Cartref Preswyl a Nyrsio

Mae rhai o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn rhad ac am ddim - er enghraifft, gwybodaeth, cyngor ac asesiadau ynghylch pa fath o gymorth fydd ei angen arnoch chi a'ch cynhaliwr.

Yn dilyn asesiad o'ch anghenion, os penderfynir bod angen i chi symud i gartref preswyl neu nyrsio, yna, bydd rhaid i ni gyfrifo faint o arian y gallwch chi fforddio'i dalu. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, mae'n bosibl bydd rhaid i chi dalu'r gost lawn am eich gofal eich hunan, neu efallai bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn cytuno i dalu rhan o'r costau.

Pwy sy'n talu beth?

Byddwn ni'n cyfrifo'ch cyfraniad drwy gynnal asesiad ariannol, fydd yn ein galluogi ni i benderfynu faint o arian bydd modd i chi'i gyfrannu tuag at gost eich gofal mewn cartref. Diben yr asesiad ariannol yw gwneud yn siŵr na fyddwch chi'n gorfod talu mwy na faint rydych chi'n gallu fforddio (yn rhesymol). 

Yn yr amgylchiadau canlynol, byddai rhaid i chi dalu'ch costau gofal yn llawn, a fyddech chi ddim yn derbyn unrhyw gymorth ariannol gan Wasanaethau Cymdeithasol:

  • Os oes cyfalaf gyda chi sydd dros swm penodol (er enghraifft, arbedion), bydd rhaid i chi dalu'ch costau gofal yn llawn, waeth faint yw'ch incwm. Mae'r lefel yma o gyfalaf, sef y Trothwy Hunan Ariannu, yn cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
  • Os yw'ch incwm yn fwy na'ch costau cartref gofal, bydd rhaid i chi dalu'r costau llawn am eich llety.

Os nad oes arbedion gyda chi sydd dros y trothwy, neu os nad yw'ch incwm wythnosol yn ddigon i dalu cost eich gofal, yna fe fydd yr asesiad ariannol yn pennu faint gallwch chi gyfrannu tuag at gostau'ch gofal mewn cartref. 

Efallai y bydd modd i ni helpu gyda rhai o'r costau, cyhyd â'n bod ni'n cytuno mai cartref gofal preswyl neu nyrsio yw'r opsiwn gorau i chi. Os nad ydyn ni'n cytuno, fyddwn ni ddim yn gallu'ch helpu chi i symud i gartref gofal. Serch hynny, efallai byddwn ni'n gallu eich helpu chi i barhau i fyw yn y gymuned. Bydd modd i ni drefnu cymorth megis cymorth yn y cartref a phryd ar glud. Cewch chi ragor o fanylion gan ein staff neu ar ein tudalennau cymorth yn y cartref.

Yn ogystal â'n cymorth ni, efallai y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau gynnig cymorth ariannol. Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth ganddyn nhw yn ogystal â sefydliadau eraill sy'n cael eu rhestru ar ochr dde'r dudalen yma o dan ddogfennau perthnasol. Fel arall, byddai ymgynghorydd ariannol annibynnol o'ch dewis yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi, o dalu am ei wasanaeth eich hun.

Os ydych chi'n gymwys ar gyfer gofal nyrsio wedi'i ariannu gan y GIG, yna byddan nhw hefyd yn gwneud cyfraniad. Gall unrhyw un sydd, yn ôl yr asesiad, angen lefel benodol o ofal, dderbyn Gofal Iechyd Parhaus wedi'i ariannu gan y GIG. Dydy hyn ddim yn ddibynnol ar glefyd, diagnosis neu gyflwr penodol, neu ar bwy sy'n darparu'r gofal na lle mae'r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu. Os yw'ch anghenion gofal cyffredinol yn dangos mai angen iechyd yw'ch prif angen gofal, efallai byddwch chi'n gymwys ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus (GIP). Os ydych chi'n gymwys ar gyfer GIP, bydd eich gofal yn cael ei ariannu gan y GIG ond mae hyn yn destun adolygiad, a phe bai'ch anghenion gofal yn newid, gallai'r trefniadau ariannu newid hefyd.

Os ydych chi o'r farn bod angen help arnoch chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, cysylltwch â:

Carfan Ymateb ar Unwaith

 

Ffôn: 01443 425003