Skip to main content

Therapi Galwedigaethol

Mae ein Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gweithio gyda phobl o bob oed sydd ag anabledd corfforol neu salwch hirdymor.  Yn ogystal â hynny, mae modd i’r gwasanaeth gefnogi pobl sydd ag anawsterau wrth fyw eu bywydau o ddydd i ddydd o ganlyniad i afiechydon y meddwl neu anabledd dysgu. 

Mae anghenion pawb yn wahanol, felly mae’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i bob unigolyn yn benodol iddo fe.  Gall y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu i chi gynnwys:

  • cynnig awgrymiadau a chymorth ymarferol ar sut i ddatrys problemau penodol yn ddiogel.  Gall hyn gynnwys eich cynghori ar ddefnyddio technegau newydd i ymdopi'n well â bywyd bob dydd (fel gwisgo, ymolchi, cael bath neu gawod, symudedd, coginio a bwyta prydau, trosglwyddo i'r gwely, cadair neu'r toiled neu oddi arnyn nhw)
  • goresgyn colli symudedd a deheurwydd trwy ddarparu offer arbenigol i helpu gyda thasgau bob dydd
  • edrych ar ffyrdd i addasu'r cartref fel ei fod yn hygyrch a thrafod grantiau rydych chi'n gymwys ar eu cyfer nhw i'ch helpu chi i dalu am y gwaith
  • eich cynghori ynghylch y dewisiadau sydd gyda chi pan fyddwch chi'n ystyried symud i lety mwy addas, os bydd addasu'ch cartref presennol yn anodd
  • darparu cymorth a chyngor ymarferol i’ch cynhaliwr, os oes un gyda chi, i’w alluogi i barhau i ofalu amdanoch chi mewn modd diogel a chyfforddus
  • eich anfon chi at ein Carfan Ail-alluogi pe baen ni’n cytuno y byddech chi’n elwa o gyfnod o adferiad ymarferol i wella’ch annibyniaeth ac ansawdd eich bywyd

  • ar gyfer plant anabl mae gyda ni garfan Therapi Galwedigaethol sydd ag arbenigedd pediatrig i ddarparu cymorth a chefnogaeth am bob agwedd o fywyd plentyn o ddydd i ddydd, i sicrhau bod modd cwrdd ag amcanion plant anabl yn ddiogel oddi mewn i'w hamgylchedd. 

Ffoniwch ni

Therapi Galwedigaethol i Oedolion

 Ffôn: 01443 425003

Therapi Galwedigaethol i Blant

Ffôn: 01443 425006

Mae’r Gwasanaeth Argyfwng Tu allan i oriau yn ymateb ar frys i argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar wŷl y banc ac ar y penwythnos. Ffôn: 01443 743665