Skip to main content

Gofal Cymdeithasol - Sylwadau a Chwynion

Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i ddarparu'r gofal gorau posibl i ddiwallu'ch anghenion.

Rydyn ni'n deall na fyddwch chi, efallai, yn cytuno â phopeth rydyn ni'n ei ddweud a'i gwneud, ac ambell waith, mae pethau yn mynd o chwith.  

Mae pob hawl gyda chi i herio unrhyw benderfyniad rydyn ni'n ei wneud, ac i roi gwybod i ni os ydych chi'n anfodlon.
Rydyn ni'n anelu at safonau uchel ond weithiau gall rhywbeth fynd o'i le.  Oni bai eich bod chi’n dweud wrthon ni, fydden ni ddim yn gwybod eich bod chi’n anfodlon.  Os cysylltwch chi â ni, bydd modd i ni weithio gyda chi i unioni pethau cyn gynted â phosibl.  Bydd eich ymateb ynglŷn â’r gwasanaeth (cadarnhaol neu negyddol) yn y bôn yn gwella'r ffordd rydyn ni’n rhoi cymorth i chi ac eraill yn y dyfodol.

Mae'r dudalen yma yn egluro sut (gyda'ch cymorth chi a chymorth y staff sy'n gweithio gyda chi) bydd modd i ni ddelio â'ch cwyn. Arweiniad Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r ffordd rydyn ni'n ymdrin â chwynion.

Mae modd i ni ymchwilio i gwynion sy'n cael eu codi o fewn 12 mis i'r mater o bryder ddod i'ch sylw yn unig, oni bai fod amgylchiadau eithriadol. Gan ddibynnu ar natur eich pryder, mae'n bosibl y bydd proses wahanol yn cael ei defnyddio i ymdrin ag ef, er enghraifft, lle y gall rhywun fod mewn perygl. Caiff unrhyw benderfyniad i ymchwilio i'ch pryder o dan broses amgen ei drafod gyda chi.

 Does dim modd i ni ymchwilio i'ch cwyn lle y gall hynny beryglu ymchwiliad gan yr heddlu, neu fod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnal ymchwiliad.

 Fyddwn ni ddim ychwaith yn ystyried cwyn os ydych chi'n nodi eich bod chi'n cymryd camau cyfreithiol, neu fod rhywun arall yn gwneud hynny.

Diogelu eich gwybodaeth bersonol

Os ydych chi'n gwneud cwyn, byddwn ni'n parchu'ch hawl i gyfrinachedd. Er y bydd angen i ni rannu'r wybodaeth (a roddwch i ni) ag eraill fydd efallai yn delio â'ch cwyn, byddwn ni ond yn gwneud hyn os oes angen. Fyddwn ni ddim yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth oni bai fod rhaid i ni wneud hyn yn unol â'r gyfraith, ond byddwn ni ond yn trosglwyddo'r wybodaeth sy'n angenrheidiol.

Ga i ofyn i rywun arall fy helpu gyda'm cwyn?

Mae'r hawl gyda chi i ofyn i gynrychiolydd neu eiriolwr (rhywun a fydd yn helpu i chi ddatgan eich safbwynt) eich helpu chi â'ch cwyn.  Os ydych chi o dan 18 oed, byddwn ni'n dod o hyd i eiriolwr drosoch chi.

Cam 1: Datrys yn lleol

Y cam cyntaf wrth ddatrys problem yw cysylltu â rhywun sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth neu, os yw'n well gyda chi, ein Swyddog Cwynion. 'Datrys yn lleol' rydyn ni'n galw hyn. Fe gewch chi gysylltu â ni mewn unrhyw ffordd – does dim rhaid cyflwyno'r gŵyn yn ysgrifenedig. 

Byddwch chi'n cael y cyfle i drafod y materion rydych chi wedi'u codi, a bydd modd gwneud hyn dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, mewn ymgais i ddatrys y problemau. Rhaid gwneud hyn cyn pen 10 diwrnod gwaith  i ni dderbyn eich cwyn. Pe na fyddai modd i ni weithio yn ôl yr amserlen yma, bydden ni'n cysylltu â chi i ofyn a gawn ni ymestyn yr amser sy'n cael ei ganiatáu.

Yn dilyn y drafodaeth yma, ac unrhyw ymchwiliad pellach sydd yn angenrheidiol, byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi o fewn 5 diwrnod gwaith pan fydd eich problem wedi ei datrys. 

Os yw'ch cwyn chi yn ymwneud â newid i'ch gwasanaeth, byddwn ni fel arfer yn ceisio ymdrin â'r broblem cyn gwneud y newid yma. Os na allwn i ohirio'r newid, byddwn ni'n esbonio pam.

Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol

Fe gewch chi ofyn i rywun sy'n gwbl annibynnol ar yr Awdurdod Lleol i ymchwilio i'ch cwyn. Rydyn ni'n galw hyn yn ymchwiliad ffurfiol neu Cam 2 - Datrysiad Ffurfiol.

Bydd rhaid i'r Awdurdod Lleol lunio cofnod ffurfiol o'r drafodaeth mewn ysgrifen a fydd yn cael ei anfon atoch chi o fewn 5 diwrnod gwaith, er mwyn i chi gael y cyfle i roi sylwadau ynglŷn â'i gywirdeb. Byddwch chi hefyd yn cael manylion ynglŷn â sut y byddwn ni'n ymchwilio i'ch cwyn, enw'r Swyddog Ymchwilio ac os yw’n briodol, y Person Annibynnol.

Bydd rhaid i'r Ymchwiliad Ffurfiol gael ei gwblhau cyn pen 25 diwrnod gwaith i'r dyddiad dechrau. Yn ogystal â hynny, rhaid i ymateb llawn (mewn ysgrifen) gael ei gyflwyno i chi o fewn yr un cyfnod. Os na fydd hi'n bosibl i ni weithio o fewn yr amserlen yma oherwydd amgylchiadau eithriadol, byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi i roi gwybod am yr oedi, a phryd bydd yr ymateb yn cael ei gyflwyno.

Beth alla i wneud os bydda i'n dal yn anfodlon?

Os ydych chi'n dal yn anfodlon ar ganlyniad yr ymchwiliad i'ch cwyn ar ôl Cam 2, cewch chi gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Dydw i ddim yn siŵr wrth bwy dylwn i gwyno.

Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda llawer o sefydliadau eraill. Fe gewch chi gwyno wrthon ni am broblemau gydag unrhyw un o'ch gwasanaethau gofal cymdeithasol. Os yw'r gwasanaeth rydych chi'n anfodlon arno yn cael ei ddarparu gan sefydliad rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth ag ef, fe drosglwyddwn ni'ch cwyn iddyn nhw, os dyna'ch dymuniad.

Efallai fod gyda chi gŵyn am wasanaeth rydyn ni wedi'i drefnu ar eich cyfer chi gyda darparwr gofal arall, megis cartref gofal preswyl, asiantaeth gofal yn y cartref neu wasanaeth oriau dydd. Bydd pob sefydliad â'i broses gwyno ei hun, a byddwn ni fel arfer yn anfon eich cwyn ato ef ac yn sicrhau ei fod yn ymdrin ag ef. Byddwn ni'n dweud wrthoch chi yn union beth rydyn ni'n ei wneud.

Os ydych chi eisoes wedi cwyno i sefydliad arall, a dydych chi ddim yn fodlon ar ei ymateb, yna byddwn ni'n ystyried dwysáu'ch cwyn i Gam 2. Os yw'ch cwyn am rywbeth rydyn ni wedi'i ddarparu ar y cyd â sefydliad arall, er enghraifft, pecyn gofal gan staff iechyd a staff gofal cymdeithasol, byddwn ni'n ystyried eich cwyn gyda'n gilydd, ac fel arfer, yn anfon eich cwyn atyn nhw gan sicrhau eu bod nhw'n delio ag ef. Byddwn ni'n dweud wrthoch chi yn union beth rydyn ni'n ei wneud.

Safonau'r Gymraeg a Chydymffurfio

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau penodol i gydymffurfio â safonau mewn perthynas â'r iaith Gymraeg. Cafodd hyn ei orfodi trwy is-ddeddfwriaeth (Safonau'r Gymraeg). Mae'r safonau sydd wedi'u gosod ar Gyngor Rhondda Cynon Taf wedi'u nodi yn y ddogfen ‘Hysbysiad Cydymffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011’.

Mae ein holl safonau, gan gynnwys Cyflenwi Gwasanaethau, Llunio Polisi a Safonau Gweithredol ar gael ar-lein yma: www.rctcbc.gov.uk/GwasanaethauCymraeg  neu yn unrhyw un o'n canolfannau derbyn.

Bydd cwynion neu bryderon ynghylch yr iaith Gymraeg yn dilyn yr amserlenni a'r camau sy'n cael eu nodi ym mholisi'r Cyngor. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol cyn penderfynu a yw'r awdurdod neu'r gwasanaeth wedi gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol neu'n unol â pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy.

Mae swyddogion wedi cael hyfforddiant ynglŷn â Safonau'r Gymraeg ac felly yn effro iddyn nhw. Maen nhw hefyd wedi cael sesiynau gwybodaeth am y Polisi Cwynion a Phryderon hefyd. Bydd swyddogion yn dilyn y dull corfforaethol yma wrth ddelio â chwyn yn ymwneud â'r Gymraeg a'n Safonau ac yn gallu ymgynghori â Swyddog Cydymffurfio a Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg yr awdurdod i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi o'r farn nad yw'r gŵyn wedi'i datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd â'ch rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg, cewch chi gwyno'n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Mae modd cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg: 

  • drwy'r godi'r ffôn: 0845 6033221
  • drwy anfon e-bost: post@comisiynyddygymraeg.org
  • drwy ysgrifennu at: Comisiynydd y Gymraeg, Siambrau'r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1AT
  • Fel arall, galwch i mewn i unrhyw un o'n canolfannau derbyn sydd â chopi o Ganllaw'r Comisiynydd ar gyfer gwneud cwyn.

Canmoliaeth, sylw ac awgrym?

Ein bwriad ni yw cyflwyno gwasanaethau o safon uchel i’r bobl sy’n eu defnyddio nhw.  Os oes awgrym gyda chi ynghylch sut y byddai modd gwella'n gwasanaethau, bydden ni'n croesawu'ch sylwadau.

Os ydych chi'n fodlon ar y gwasanaeth rydych chi wedi'i gael gennyn ni, bydd modd i chi roi gwybod i ni trwy gysylltu â'r Uned Sylwadau a Chwynion yn uniongyrchol. Byddwn ni’n trosglwyddo’r wybodaeth ymlaen i’r person, y garfan neu’r sefydliad sydd yn gyfrifol am y gwasanaeth hwnnw.

Oes modd i mi gwyno wrth rywun arall os ydw i'n anfodlon o hyd?

Yr Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n rheoleiddio'r holl wasanaethau gofal yng Nghymru. Fe gewch chi gwyno yn uniongyrchol i'r Arolygiaeth am ofal cymdeithasol a gafodd ei ddarparu gan gartrefi gofal ac asiantaethau gofal yn y cartref, yn ogystal â chan wasanaethau sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor. 

Fe gewch chi gwyno i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am unrhyw agwedd ar wasanaethau cyhoeddus. Serch hynny, mae'n well gan yr Ombwdsmon i bobl ddefnyddio proses gwyno'r Cyngor yn gyntaf.
 
Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n rheoleiddio gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ac mae ganddo'r pŵer i ymchwilio i honiadau o gamymddwyn. Mae modd i'r Comisiynydd Plant a'r Comisiynydd Pobl Hŷn ymchwilio i gwynion hefyd.   

Manylion cyswllt ein swyddog(ion) cwynion:

Yr Uned Sylwadau a Chwynion

Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf 
Trewiliam
Tonypandy

CF40 1NY

Ffoniwch (01443) 425003