Skip to main content

Dywedwch unwaith yn unig - Rhoi gwybod i ni am farwolaeth

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaeth rydyn ni'n gobeithio fydd yn gwneud pethau'n haws i chi pan fydd rhywun yn marw. Mae'r gwasanaeth yma'n golygu y byddwch chi dim ond yn gorfod dweud wrthon ni unwaith, a byddwn ni'n rhoi gwybod i adrannau eraill y Cyngor a sefydliadau eraill y Llywodraeth.

Pan fydd rhywun yn marw, mae llawer o bethau i'w gwneud, ar adeg pan nad oes amynedd gyda chi i'w gwneud nhw. Un o'r pethau yma yw cysylltu ag amrywiaeth o adrannau'r Llywodraeth a gwasanaethau awdurdod lleol sydd angen cael gwybod.

Sut bydd modd i'r gwasanaeth eich helpu chi

Pan fydd rhywun yn marw, mae rhaid i'r farwolaeth gael ei chofrestru gyda'r Cofrestrydd. Unwaith i hwnnw gael ei wneud, mae'n bosibl y bydd angen rhoi'r un wybodaeth i nifer o sefydliadau eraill.

Rydyn ni, erbyn hyn, yn darparu gwasanaeth newydd sydd, gyda'ch caniatâd chi, yn eich helpu chi i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yna'n trosglwyddo'r wybodaeth i nifer o adrannau'r llywodraeth a gwasanaethau awdurdod lleol.

Sut mae modd i chi gysylltu â ni i ddefnyddio'r gwasanaeth

Mae modd defnyddio'r gwasanaeth yma mewn sawl ffordd, unwaith i chi gofrestru'r farwolaeth gyda'r Cofrestrydd:

Ar-lein yn: www.gov.uk/tell-us-once

Galw heibio...

Yn syth ar ôl cofrestru marwolaeth, gall y Cofrestrydd/cynghorydd eich helpu chi i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Fel arall, bydd modd i chi drefnu apwyntiad lleol trwy'r Cofrestrydd ar adeg fwy cyfleus i chi.

Gallwch chi drefnu apwyntiad yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd neu yn y Canolfannau iBobUn yn y Porth, Treorci neu Aberdâr.

Ffoniwch 01443 494024 i drefnu apwyntiad.

I bwy fydd modd i ni roi gwybodaeth?

Byddwn i'n cysylltu â'r sefydliadau canlynol os oes angen:

  • Adran Gwaith a Phensiynau: y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr a'r Ganolfan Byd Gwaith
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi: Budd-dal Plant a Chredydau Treth
  • Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau
  • Swyddfa'r Budd-dal Tai
  • Swyddfa Budd-dal Treth y Cyngor

Bydd modd i ni gysylltu â'r cyrff canlynol hefyd, os byddwch chi'n gofyn i ni:

  • Treth y Cyngor
  • Casglu taliadau ar gyfer Gwasanaethau'r Cyngor
  • Bathodynnau Glas
  • Teithio Rhatach
  • Gwasanaethau Etholiadol
  • Gwasanaethau i Oedolion
  • Gwasanaethau i Blant
  • Y DVLA
  • Llyfrgelloedd

Sut y byddwn ni'n trin yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni

Byddwn ni'n cadw'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni yn ddiogel. Bydd y sefydliadau rydyn ni'n rhoi'ch gwybodaeth iddyn nhw yn ei defnyddio i ddiweddaru cofnodion; i ddod â gwasanaethau, budd-daliadau a hawliau i ben (fel sy'n briodol); ac i ddatrys unrhyw faterion sy'n bodoli. Efallai byddan nhw'n defnyddio'r wybodaeth a roddwn ni iddyn nhw mewn ffyrdd eraill, ond dim ond y rhai hynny mae'r gyfraith yn eu caniatáu.

Yr wybodaeth bydd angen arnoch chi i ddefnyddio'r gwasanaeth

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth gywir i unrhyw sefydliadau rydyn ni'n cysylltu â nhw. Felly bydd angen arnon ni'r wybodaeth ganlynol am y person sydd wedi marw:

  • Ei Rif Yswiriant Gwladol a'i ddyddiad geni
  • Manylion unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau roedd y person yn eu derbyn
  • Ei dystysgrif marwolaeth
  • Rhif ei Basbort (os ydych chi am i ni roi gwybod i'r Gwasanaeth Pasbortau)
  • Rhif ei Drwydded Yrru (os ydych chi am i ni roi gwybod i'r DVLA)

Gallwn ni ofyn am wybodaeth am y canlynol hefyd:

  • Ei berthynas agosaf
  • Unrhyw ŵr, gwraig neu bartner sifil sydd yn fyw
  • Y person sy'n delio â'i ystâd
  • Unrhyw un sydd yn derbyn budd-dal plant ar ei ran

Rhaid i chi gael cytundeb yr unigolion sy'n cael eu rhestru uchod os ydych chi'n mynd i roi gwybodaeth i ni amdanyn nhw.

Os chi yw'r berthynas agosaf, efallai y bydd hawl gyda chi i gael cynnydd yn eich budd-daliadau, felly sicrhewch fod eich Rhif Yswiriant Gwladol wrth law pan fyddwch chi'n ein ffonio ni.

Os nad chi yw'r berthynas agosaf, na'r person sy'n delio ag ystâd yr ymadawedig, bydd modd i chi ddefnyddio'r gwasanaeth os ydych chi wedi cael eich awdurdodi i weithredu ar ei ran.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi, yn y pendraw, yw sicrhau bod unrhyw sefydliad sy'n talu budd-dal i chi â'r manylion cywir a mwyaf diweddar.

 

Tudalennau Perthnasol