Skip to main content

Canolfannau Seremonïau - Prisiau a Chadw Lle

Mae Rhondda Cynon Taf yn un o ranbarthau cofrestru mwyaf Cymru. Mae ein staff profiadol, sydd wedi cael hyfforddiant o’r safon gorau, yn cynnig gwasanaeth proffesiynol o’r radd flaenaf ar gyfer cynnal seremonïau priodas, gwasanaethau sifil a seremonïau enwi.

Mae modd cynnal y seremonïau yma yn y Swyddfa Gofrestru, sydd â’i chanolfan yng nghanol tref hanesyddol Pontypridd, neu yn un o westai gwledig ledled y fwrdeistref sirol.

Swyddfa Gofrestru Pontypridd – ystafelloedd ar gael i’w llogi

Mae modd dewis o blith 3 o ystafelloedd sy wedi’u haddurno’n chwaethus yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd.

Swyddfa Gofrestru Rhondda Cynon Taf

Mae modd llogi’r ystafell yma ddydd Llun i ddydd Saswrn. Cost llogi’r ystafell yma sydd â lle i 10 o westeion ydy £40 (aros am lun) 

Ystafell Evan James

Mae Ystafell Evan James ar gael i’w llogi ddydd Llun i ddydd Sadwrn.Cost llogi’r ystafell yma (llun i’w weld ar yr ochr dde) sydd â lle i 45 o westeion ydy £80.  

Y Siambr Ddinesig

Mae modd llogi’r Siambr Ddinesig ddydd Llun i ddydd Gwener.  Cost llogi’r ystafell yma (llun i’w weld ar yr ochr dde) sydd â lle i 45 o westeion ydy £80.  

Noder: I gadw lle, mae blaendal o £10 yn daladwy. Does dim modd ad-dalu’r arian yma.

I gadw lle, cysylltwch â ni ar y manylion cyswllt sy wedi’u nodi isod:

Canolfannau sy wedi’u Cymeradwyo

Mae nifer o Ganolfannau sy wedi’u Cymeradwyo ar gyfer cynnal Priodasau, Seremonïau Sifil a Seremonïau Enwi i’w cael yn Rhondda Cynon Taf.  Yn ôl y gyfraith, mae modd i’n Swyddogion Cofrestru i gynnal seremonïau yn y canolfannau yma.

Os byddwch chi’n penderfynu priodi mewn un o’n Mangreoedd sy wedi’u Cymeradwyo, mae gofyn eich bod chi’n cysylltu â’r ganolfan o’ch dewis i wneud trefniadau dros dro gyda’r swyddog sydd â chyfrifoldeb.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau’r trefniadau yma gyda’r Cofrestrydd Arolygu yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd, i ofalu bod swyddogion cofrestru ar gael ar y diwrnod, i gynnal y seremoni a chofrestru’r briodas.

I gael rhagor o fanylion ynglŷn â’r uchod, cysylltwch â ni:

Cofrestrydd Arolygol

Y Gofrestrfa Ranbarthol
Adeiladau’r Cyngor
Gelliwastad Road
Pontypridd
CF37 2DP 

Ffôn: 01443 494024