Skip to main content
 

Adolygu Gostyngiad Person Sengl — Treth y Cyngor

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal adolygiad o ostyngiadau person sengl i bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Mae'r broses yma'n cael ei gweithredu gan y Cyngor ar y cyd â chyflenwr trydydd parti. Ein nod yw cynnig y gwasanaeth gorau posibl i'n trigolion yn ystod yr adolygiad trwy osod cyfarwyddiadau clir am sut i lenwi ffurflenni sydd angen eu dychwelyd.

Serch hynny, o bryd i'w gilydd, efallai nad yw'r amgylchiadau mor hawdd i'w hesbonio. I helpu yn y sefyllfaoedd yma, rydyn ni wedi cynnwys y cwestiynau mwyaf cyffredin sy'n gallu codi yn ystod y cyfnod adolygu yma.

Pam rydw i wedi derbyn y llythyr yma?

Mae'n ddyletswydd ar y Cyngor i amddiffyn arian cyhoeddus a sicrhau, pan fo gostyngiad yn cael ei roi, bod hawl wirioneddol i'r gostyngiad hwnnw.  Yn syml iawn, y cyfan rydyn ni'n ei wneud yw gwirio bod gyda chi hawl o hyd i'r gostyngiad.

Sut mae llenwi’r ffurflen?

Llenwch a dychwelyd y ffurflen i'r cyfeiriad ar waelod y llythyr.

Os mai chi yw'r unig oedolyn dros 18 oed sy'n byw yn eich eiddo, ticiwch y blwch perthnasol, llofnodwch y ffurflen a nodi'r dyddiad ar waelod y llythyr yma.

Os oes mwy nag un oedolyn yn byw yn y cartref, nodwch ei enw, ei ddyddiad geni, y dyddiad y symudodd i mewn a'i gyfeiriad blaenorol.  Os ydych chi o'r farn na ddylai gyfrif at ddibenion Treth y Cyngor, er enghraifft, os prentis yw e/hi neu rydych chi'n dal i dderbyn Budd-dal Plant ar ei gyfer/chyfer, dylech chi ddweud wrthon ni pam.  Efallai y bydd angen tystiolaeth fel datganiad banc i ddangos eich bod yn derbyn Budd-dal Plant ar gyfer y person sydd dros 18 oed. 

Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi eto i gael rhagor o wybodaeth felly byddai'n ddefnyddiol pe byddech chi'n darparu cyfeiriad e-bost neu rif ffôn i ni. Neu, os oes angen cymorth arnoch chi gyda'r dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei darparu, e-bostiwch y Garfan Adolygu Treth y Cyngor: refeniw@rctcbc.gov.uk neu ffonio 0300 330 1505.

Beth fydd yn digwydd o beidio â llenwi'r ffurflen?

Byddwn ni'n cymryd yn ganiataol bod eich sefyllfa wedi newid a bod dim hawl gyda chi i'r gostyngiad mwyach. Bydd eich gostyngiad person sengl yn cael ei ddiddymu ac fe fydd bil diwygiedig yn cael ei anfon atoch chi.

Beth fydd yn digwydd o beidio â dychwelyd y ffurflen cyn pen y terfyn amser o 14 diwrnod? 

Mae amser ychwanegol yn cael ei ganiatáu o ystyried y sefyllfa bresennol. Dim ond bod y ffurflen yn cael ei dychwelyd o fewn amser rhesymol, fyddwch chi ddim yn cael eich cosbi. Os ydy'r ffurflen yn hwyr iawn, efallai byddwch chi'n derbyn llythyr atgoffa. Os ydych chi'n derbyn llythyr atgoffa, dylech chi lenwi'r ffurflen fel rydyn ni wedi gofyn i chi wneud eisoes.

Beth ddylwn i ei wneud os ydy rhywun yn defnyddio fy nghyfeiriad am resymau cyswllt yn unig?

Rhowch ei enw a'r cyfeiriad lle mae'n byw mewn gwirionedd fel bydd modd ei wirio. Mae modd i chi ddarparu rhagor o wybodaeth os ydych chi o'r farn ei bod yn berthnasol i gynorthwyo'ch cais.

Rydw i wedi dweud wrth y Cyngor am newid yn fy amgylchiadau'n barod.  Oes angen i mi lenwi'r ffurflen?

Oes; rhaid cynnwys holl fanylion eich sefyllfa bresennol.

Rydw i'n derbyn post i'r bobl oedd yn arfer byw yma. Beth ddylwn ei wneud am hyn?

Dylech chi ysgrifennu ar yr amlen yn esbonio nad yw'r person yn byw yno bellach, a dychwelyd yr amlen i'r anfonwr.

Mae ffrind yn aros gyda mi dair neu bedair noson yr wythnos; a yw hyn yn golygu nad oes hawl gyda fi i gael y gostyngiad mwyach?

Os ydy eich ffrind yn cadw ei eiddo yn eich tŷ, yna bydd eich cyfeiriad yn cael ei ystyried yn brif breswylfa y person hwnnw. Felly, does dim hawl i'r gostyngiad.  Dyma rai o'r cwestiynau y gallen ni eu gofyn:

  • Ble mae'ch ffrind yn aros bob noson arall?  Os yw'n aros mewn cyfeiriadau amrywiol ond yn cadw ei eiddo yn eich tŷ chi, ei brif breswylfa fyddai eich cyfeiriad chi.
  • Pa gyfeiriad sydd gan y meddyg/deintydd ar gyfer y person yma?  Os eich cyfeiriad chi sydd ganddyn nhw, dyma brif gyfeiriad eich ffrind.
  • Ydy'ch ffrind yn gweithio i ffwrdd ac yn aros yn eich cyfeiriad pan mae'n cael gwyliau?  Os felly, eich cyfeiriad chi fyddai ei brif gyfeiriad.

Dylech chi ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl — os oes angen, mae modd i chi ddefnyddio dalen arall.  Os ydych chi'n ansicr, e-bostiwch: refeniw@rctcbc.gov.uk i gael cyngor. 

Pam mae rhaid i mi ddychwelyd yr wybodaeth i gyfeiriad yn Pershore?

Mae'r holl ffurflenni sy'n cael eu dychwelyd yn cael eu trin gan bartneriaid y Cyngor yn eu canolfan bostio arbenigol yn Pershore. Bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn cael ei sganio'n electronig i'ch cyfrif Treth y Cyngor. 

Beth yw paru data? 

Mae cwmni partner y Cyngor yn paru cronfa ddata Treth y Cyngor â ffynonellau trydydd parti a gwasanaethau dilysu arbenigol. Mae cyfeiriadau’r rhai sy’n cael gostyngiad person sengl yn cael eu trosglwyddo i asiantaeth sy’n cynnal chwiliad i gyd-fynd â ffynonellau data eraill fel y gofrestr etholiadol neu gytundebau credyd.  Yna, mae'r asiantaeth yn darparu rhestr i'r Cyngor o oedolion sydd o bosibl yn byw yn yr eiddo.

Ydy hyn yn mynd yn groes i Ddeddfwriaeth Diogelu Data?

Nac ydy. Mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn dal y data at y dibenion cywir h.y. codi a chasglu treth.  Mae'r data'n cael eu cadw cyhyd ag sy'n ofynnol ac yna'n cael eu dinistrio.  Does dim cronfa ddata yn cael ei llunio y byddai modd i gyrff neu ffynonellau eraill ei rhannu neu gael mynediad ati.

Os ydych chi am weld Hysbysiad Preifatrwydd Experian’s ewch i:https://www.experian.co.uk/consumer/privacy.html

Pa fanylion credyd sydd gyda chi amdana i?

Does dim manylion credyd o gwbl gyda ni. Os ydych chi am weld eich ffeil gredyd, dylech chi gysylltu ag unrhyw un o'r prif asiantaethau gwirio credyd.