Skip to main content

Pobl â Nam Meddyliol Difrifol

Os mae gennych chi neu rywun arall yn eich cartref yn dioddef â nam meddyliol difrifol, efallai eich bod yn esempt neu'n gymwys i gael disgownt

Mae rheoliadau Treth y Cyngor yn caniatáu rhoi disgownt os oes llai na dau oedolyn yn byw mewn annedd. Wrth gyfrif nifer yr oedolion mewn annedd, fydd dim rhaid cyfrif unrhyw berson y mae meddyg wedi ardystio fod ganddo nam meddyliol difrifol, ar yr amod bod ef neu hi'n gymwys ar gyfer un o'r budd-daliadau sy'n cael eu rhestru isod;

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Byw i'r Anabl (elfen gofal cyfradd uwch neu ganolig)
  • Cynnydd yn y pensiwn anabledd (gan fod angen presenoldeb cyson)
  • Lwfans Gweithio i'r Anabl
  • Cymhorthdal Incwm (rhaid iddo gynnwys premiwm anabledd)
  • Cymelldaliad neu lwfans anghyflogadwy
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Taliad Annibyniaeth Personol (cyfradd safonol neu gyfradd uwch yr elfen byw bob dydd)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau lle mae gan berson allu cyfyngedig i weithio)

Os ydych chi'n credu bod gyda chi hawl i gael gostyngiad, llenwch y ffurflen, ffoniwch y Cyngor ar (01443) 425002 neu anfonwch e-bost at refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Bydd ffurflen gais yn cael ei chyflwyno i chi y bydd angen i chi ei llenwi a'i llofnodi a'i chymryd at eich meddyg. Bydd ef neu hi yn llofnodi'r ffurflen a'i rhoi yn ôl i chi neu yn ei hanfon atoch chi.

Yna, bydd angen anfon y ffurflen wedi'i llofnodi, ynghyd â phrawf o'r hawl i gael budd-dal cymwys a gewch, i'r Cyngor. Gallwch wneud hyn naill ai drwy anfon yn uniongyrchol i gyfeiriad Swyddfa'r cyngor a amlinellir ar y ffurflen neu drwy wneud apwyntiad i fynd â hi i'ch gwasanaeth ' one4aLL ' agosaf yma.

Tudalennau Perthnasol