Skip to main content

Trafferth talu?

Rhowch wybod i ni bob tro

Rydyn ni eisiau eich helpu i dalu Treth y Cyngor. Mae'n bosibl y gallwn ni baratoi trefniant talu sy'n fforddiadwy i chi. Os fyddwch chi ddim yn rhoi gwybod i ni eich bod chi'n methu â thalu'n rheolaidd, mae'n bosibl y byddwch chi'n mynd i ragor o gostau. Bydd rhaid i chi dalu'r costau hyn hefyd.

Os bydda i'n cael trafferth talu, beth ddylwn i ei wneud?

Byddwn ni'n ystyried paratoi trefniant talu gyda chi ar unrhyw adeg. Mae'n bosibl y byddwn ni'n gofyn am fanylion eich incwm a'ch treuliau i'ch helpu chi i baratoi trefniant sy'n fforddiadwy i chi. Cysylltwch â ni i drafod beth allwn ni ei wneud ar eich cyfer chi.

Fydda i'n cael newid fy nyddiad talu?

Yn gyffredinol, byddwn ni'n gofyn i chi dalu ar 15fed pob mis. Os bydd y dyddiad hwnnw'n anghyfleus i chi, beth am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol? O wneud hyn, bydd modd i chi ddewis dyddiad talu. Bydd modd i chi ddewis talu drwy Ddebyd Uniongyrchol ar 1af, 15fed neu 25ain pob mis. Cysylltwch â ni i ni gael drefnu hyn ar eich cyfer chi.

Os fydda i ddim yn talu, beth fydd yn digwydd?

Hysbysiadau i'ch atgoffa a gwysion

Os nad ydych chi'n talu eich Treth y Cyngor ar amser, byddwn ni'n anfon hysbysiad atoch i'ch atgoffa.  Os nad ydych chi'n talu'r rhandaliad cyn pen saith niwrnod, byddwch chi'n colli'ch hawl i dalu drwy randaliadau. Heb unrhyw hysbysiad neu rybudd pellach, ar ôl cyfnod o saith niwrnod arall, mae'n bosibl y bydden ni'n gofyn i chi dalu'r cyfanswm sy'n ddyledus dros y flwyddyn gyfan yn llawn.

Fyddwn ni ddim yn anfon mwy na dau hysbysiad neu rybudd mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Os nad ydych chi'n talu'n llawn yn unol â'r hysbysiad/rhybudd atgoffa, neu os nad ydym ni'n clywed gennych chi, byddwn ni'n anfon gwŷs i ymddangos yn llys a mynd i gostau.

Os ydych chi'n derbyn hysbysiad i'ch atgoffa neu'n cael eich galw i’r llys a'ch bod yn methu â thalu, cysylltwch â ni yn syth fel y gallwn gytuno ar drefniant taliad priodol.

Gorchmynion Atebolrwydd

Mae gennych chi hawl i fynychu gwrandawiad llys, pryd y byddwn ni'n gwneud cais am Orchymyn Atebolrwydd a fydd yn rhoi pwerau ychwanegol i ni gasglu'r arian sy'n ddyledus. Byddwch chi'n mynd i gostau ychwanegol o gael Gorchymyn Atebolrwydd. Cyfanswm y costau yn sgil hyn fyddai £61.50.

Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os ydyn ni'n sicrhau Gorchymyn Atebolrwydd ac yn gofyn i chi gwblhau ffurflen am eich safle ariannol.  Mae'n bosibl i chi dderbyn dirwy hyd at £500 gan Lys Ynadon am beidio â chwblhau'r ffurflen yma.  Unwaith i ni sicrhau Gorchymyn Atebolrwydd, gallwn ni dynnu swm penodol o'ch cyflog.  Os ydych chi'n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gallwn ni ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau dynnu arian o'ch Budd-dal.

Dylech chi wybod nad yw'r canlynol yn fodd i osgoi derbyn gorchymyn atebolrwydd ac yn gyffredinol, caiff y gorchymyn ei roi os yw'r swm yn ddyledus ac nad yw wedi'i dalu.

  • does dim digon o arian gyda chi i dalu Treth y Cyngor
  • rydych chi wedi gwneud cais am Fudd-dal Treth y Cyngor, neu ostyngiad neu eithriad ac yn aros i glywed gan y Cyngor
  • mae gyda chi apêl sydd heb ei ddatrys gyda'r Cyngor neu'r Tribiwnlys

Atafaelu'ch Enillion

Os ydych chi wedi derbyn atafaeliad o'ch enillion neu os ydych chi'n gyflogwr sydd wedi cael ei ofyn i dynnu arian allan o gyflog gweithiwr.

Asiant Gorfodi (Beilïaid yn flaenorol) casgliadau ac achosion traddodi

Os ydy pob ymdrech arall i gytuno ar drefniant ariannol yn methu, bydd ein Asiant Gorfodi (Beilïaid) yn casglu'r ddyled.  Mae unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd gan Asiant Gorfodi ar ran y Cyngor yn cael ei reoli gan Gôd Ymarfer y Cyngor a'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Asiantau Gorfodi. Bydd rhagor o gostau yn cael eu codi arnoch chi pan fydd yr Asiant Gorfodi (Beilïaid) yn cael eu hanfon i gasglu'r ddyled.

Os yw Asiant Gorfodi yn aflwyddiannus wrth gasglu'r ddyled, gallwn wneud cais i Lys yr Ynadon ar gyfer eich traddodi i'r carchar am beidio â thalu'r dreth gyngor. Yn ogystal â hyn fe gawn ni ddechrau achos i'ch gwneud chi'n fethdalwr, neu i osod gorchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo. O ganlyniad i unrhyw un neu rai o'r dulliau hyn o weithredu, byddwch chi'n mynd i gostau pellach.

 Côd Ymddygiad

  • cymerwch gip ar ein côd ymddygiad
Treth y Cyngor

Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST

Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708