Skip to main content

Treth y Cyngor - Bilio di-bapur

e-Filio – Mae modd i ni gynnig yr opsiwn i chi dderbyn eich biliau Treth y Cyngor trwy e-bost.

Cofrestrwch heddiw i sicrhau bod eich Treth y Cyngor yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau, nid costau postio!

Cofrestru ar gyfer biliau di-bapur

Trwy gofrestru i reoli eich cyfrifon ar-lein a dewis gwasanaeth e-Filio, byddwn ni'n anfon e-bost atoch chi pan fydd eich bil ar gael i'w weld yn ddiogel ar eich cyfrif. Bydd gyda chi fynediad diderfyn i'ch holl filiau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Nodwch: Os nad ydych chi wedi cofrestru yn barod, bydd angen eich Rhif Cyfeirnod Treth y Cyngor arnoch chi i gwblhau'r broses. Cewch chi ddod o hyd i'r rhif yma;

  • ar eich bil Treth y Cyngor diwethaf
  • trwy fynd i'ch e-gyfrif os ydych chi wedi cofrestru o'r blaen
  • trwy ffonio 01443 425002

Sicrhewch eich bod chi'n rhoi'r cyfeiriad e-bost diweddaraf, dilys, wrth gofrestru. Cofiwch roi gwybod i ni os ydych chi'n newid eich cyfeiriad e-bost.

Os ydych chi newydd symud i'r ardal, cewch chi gofrestru ar gyfer Treth y Cyngor gan ddefnyddio'r ffurflen Rhoi Gwybod am Newid Cyfeiriad.

Tudalennau Perthnasol