Skip to main content

Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu ac wedi ymrwymo i helpu trigolion i adnewyddu cartrefi gwag er mwyn adfywio cymunedau a darparu tai fforddiadwy, y mae galw mawr amdanyn nhw, i unigolion ledled Cymru.

Meini Prawf Cymhwysedd

  • Rhaid bod y cartef gwag wedi'i leoli yn aral un o'r Awdurdodau Lleol sydd yn rhan o'r cynllun, cliciwch yma i weld os yw'r grant ar gael yn eich Awdurdod Lleol chi.
  • Mae rhaid i'r cartref fod wedi'i gofrestru gydag Adran treth y Cyngor yr awdurdod fel eiddo gwag (heb ei feddiannu) ar hyn o bryd, a rhaid ei fod wedi bod yn wag o leiaf 12 mis adeg cyflwyno'r cais.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn berchen, neu ar fin bod yn berchen, a yr eiddo. Rhaid iddyn nhw fwriadu byw yn yr eiddo gwag a'i ystryied yn ei unig a prif gartef, a hynny am gyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad mae'r gwaith sydd wedi'i dalu gan y grant yn cael ei ardystio (cynod amod y grant).

Nodwch y bydd y meini prawf o ran cysylltiadau â'r ardal leol yn berthnasol i'r Awdurdodau Lleol canlynol - Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion ac Abertawe (Ward Y Gŵyr). Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am y meini prawf yma yn y ffurflen gais.

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Bydd ymgeiswyr posibl sy'n bodloni'r meini prawf uchod yn cael eu hystyried am grant er mwyn mynd tuag at gost trwsio'r eiddo gwag. Bydd hyn yn ddibynnol ar yr amodau canlynol:

  • Uchafswm y grant tuag at gost gwaith yw £25,000 (mae ffïoedd ategol ar ben hyn). 
  • Bydd gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn ofyniad y rhan o'r gwaith sy'n cael ei gynnal ar yr eiddo.
  • Rhaid i ymgeiswyr sy'n berchen ar eiddo gyfrannu 15% o gyfanswm y gost ar gyfer gwaith cymwys hyd at £25,000 (sef uchafswm o £3,750). Bydd y cyfraniad gorfodol yn cael ei hepgor yn achos ymgeiswyr sy'n wynebu caledi ariannol.
  • Bydd y grant ond yn cael ei dalu ar gyfer gwaith sydd wedi'i nodi gan syrfëwr yr Awdurdod Lleol.  Dim ond gwaith angenrheidiol i wneud yr eiddo'n ddiogel a chael gwared ar unrhyw beryglon Categori 1 fydd yn cael ei ystyried.
  • Fydd pob ymgeisydd ddim yn derbyn y swm dyfarniad grant uchaf.  Fydd dim grant o gwbl yn cael ei roi i brosiectau lle mae'r gwaith sydd wedi'i asesu gwerth llai na £1,000.
  • Rhaid cwblhau'r gwaith dan sylw cyn bod modd derbyn arian y grant.  Os yw cost y gwaith yn fwy nag uchafswm £20,000 y grant, chi fydd yn gyfrifol am ariannu gweddill y gost.   Rhaid i chi sicrhau bod gyda chi'r arian i gwblhau'r gwaith dan sylw.
  • Dyw unrhyw waith sydd wedi'i gwblhau cyn yr arolwg a chyn cymeradwyo'r grant ddim yn gymwys ar gyfer y grant.
  • Bydd raid ad-dalu'r grant yn llawn os yw'r eiddo'n cael ei werthu neu os fydd neb yn byw yn yr eiddo o fewn y cyfnod sy'n amod i'r grant, sef 5 mlynedd.
  • Rhaid i Bridiant Cyfreithiol gael ei gofrestru i deitl yr eiddo yn y Gofrestrfa Tir, a hynny o blaid yr Awdurdod Lleol.
  • Bydd taliad grant ond yn cael ei ryddhau wedi i'r gwaith gael ei ardystio gan yr Awdurdod Lleol AC unwaith i'r Pridiant Cyfreithiol gael ei osod.
    

Sut mae gwneud cais

Gweld eich bod chi'n gymwys a gweneud cais yma

Mae'n bosibl bydd angen i chi lwytho'r dystiolaeth isod, lle bo gofyn:-

  • tystiolaeth o'ch morgais/cynnig morgais
  • tystiolaeth o hawl i fudd-dal
  • tystiolaeth o'ch Rhif Yswiriant Gwladol

Os oes angen addasiad rhesymol arnoch chi trwy gydol y broses hon, gallwch nodi anghenion yn y cais.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, e-bostiwch: GrantiauCartrefiGwag@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 494712