Skip to main content

Benthyciadau Gwella Cartrefi

Mae Benthyciad Gwella Cartrefi yn fenthyciad di-log sydd ar gael drwy Fancio Cymunedol Robert Owen i berchnogion tai er mwyn gwneud eu cartrefi'n fwy diogel, yn gynhesach ac yn fwy ‘gwyrdd’.

Mae Cyngor RhCT wedi ffurfio partneriaeth â Bancio Cymunedol Robert Owen i gynnig benthyciad di-log i berchen-feddianwyr. Mae benthyciadau ar gael am symiau rhwng £1000 a £15,000 ac mae modd eu talu’n ôl dros 5 mlynedd gyda dim ffioedd ad-dalu cynnar a dim ffioedd sefydlu.

Gwaith Cymwys 

Mae'r benthyciadau ar gael ar gyfer amrywiaeth o waith adeiladu gan gynnwys ffenestri, drysau, atal lleithder, mynediad i'r anabl, ceginau, ystafelloedd ymolchi, grisiau, plymio, trydan, gwaith plastro, lloriau, toeon, simneiau a gwaith brics.

Mae'r benthyciad hefyd yn berthnasol i foeleri, stofiau llosgi coed a mesurau effeithlonrwydd ynni (e.e. inswleiddio a rhai gosodiadau ynni adnewyddadwy).

Ymgeisio a Rhagor o Wybodaeth 

Mae rhagor o wybodaeth am Fenthyciad Robert Owen a manylion ymgeisio  ar wefan Bancio Cymunedol Robert Owen neu drwy gysylltu â nhw ar 01686 626234.