Skip to main content

Cyngor rhentu preifat

Mae pobl sy'n rhentu eiddo â hawl i fyw mewn cartrefi diogel sydd ddim yn peryglu eu Hiechyd a'u Diogelwch.

Cyn llofnodi contract ar gyfer unrhyw eiddo, dylech chi sicrhau eich bod chi wedi gweld yr eiddo sawl gwaith, a'ch bod chi'n fodlon ar ei gyflwr. Os oes angen unrhyw waith atgyweirio dylech chi fynnu bod y rhain yn cael eu cwblhau cyn i chi lofnodi unrhyw Gontract Meddiant neu dalu unrhyw arian i landlord neu Asiant Gosod.

Os bydd unrhyw broblemau yn codi yn eich eiddo ar ôl i chi symud i mewn, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cysylltu â'r asiant gosod tai a/neu'r landlord, i geisio datrys y broblem yn gyfeillgar yn y lle cyntaf. Os bydd hyn yn aflwyddiannus, ffoniwch Wasanaeth Tai Iechyd y Cyhoedd ar 01443 4425001 neu e-bostio CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rctcbc.gov.uk. Bydd Swyddog yn trefnu apwyntiad i archwilio'r eiddo ac os daw o hyd i unrhyw beryglon arwyddocaol, mae modd i'r Cyngor fynnu bod y landlord yn gwneud y gwaith angenrheidiol.  

Oherwydd y galw mawr am dai rhent yn Rhondda Cynon Taf, mae'n bwysig eich bod chi'n gweithio gyda'ch landlord, yr Asiant Gosod neu'r Cyngor i geisio datrys unrhyw broblemau yn eich eiddo rhent preifat. Mae llety amgen yn brin iawn ac felly bydd y Cyngor yn blaenoriaethu gweithio gyda chi a'ch landlord i'ch cadw chi yn eich cartref presennol lle bynnag y bo modd. Os ydych chi'n cael problemau megis anghydfodau cytundebol, anawsterau wrth dalu eich rhent neu os oes gyda chi ôl-ddyledion rhent a allai roi eich cartref presennol mewn perygl neu os ydych chi wedi derbyn Hysbysiad i adael eich eiddo, ffoniwch Wasanaeth Materion Tai'r Cyngor ar 01443 495188 neu e-bostio digartrefedd@rctcbc.gov.uk