Gweithio mewn ysgolion yn Rhondda Cynon Taf

Dewch i ymuno â'n carfan! Mae gyda ni dros gant o ysgolion, gan gynnwys ysgolion babanod, ysgolion iau, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed. Mae'r rhain yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwy iaith, ysgolion arbennig ac ysgolion ffydd, ynghyd ag unedau cyfeirio disgyblion.

Rydyn ni angen pobl eithriadol i gefnogi ac ysbrydoli ein disgyblion i gyflawni eu huchelgeisiau a'u dyheadau. Mae ein staff yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau ein plant a phobl ifainc, eu teuluoedd a'u cymunedau.

 

Rolau Arwain mewn Ysgolion 

Ein cenhadaeth, ein gweledigaeth a'n cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth.

Rolau Addysgu a Llwybrau i Addysgu

Dysgwch am swyddi addysgu, cyfleoedd datblygu a sut i ddod yn athro yn ysgolion Rhondda Cynon Taf.

Rolau Cynorthwyydd Addysgu

Dysgwch ragor am ein rolau Cynorthwyydd Addysgu a sut i ddod yn gynorthwyydd addysgu, ynghyd â chyfleoedd datblygu a dilyniant.

Rolau mewn Ysgolion Cyfrwng Cymraeg

Mae gyda ni ystod o gyfleoedd ar gael yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg, dysgwch ragor yma.

Swyddi Arlwyo mewn Ysgolion

Dysgwch sut y mae modd i chi helpu lles, twf a datblygiad plant yn Rhondda Cynon Taf trwy ein rolau arlwyo.

Rolau Eraill mewn Ysgolion a’r
Gwasanaethau Addysg

Mae hyn yn cynnwys rolau megis Clerc yr Ysgol, Cynorthwyydd Gweinyddol, Gofalwr, Glanhawr Ysgol a rolau ehangach yn rhan o'r Gwasanaethau Addysg.

 

Amrywiaeth a Chynhwysiant

A chithau'n weithiwr, gallwch chi ddisgwyl ymrwymiad gan yr Uwch Garfan Rheoli i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bawb, lle mae pob aelod o staff yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyflawni eu llawn botensial.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Uwch Hyrwyddwr Amrywiaeth yr Uwch Garfan Rheoli sy'n hyrwyddo diwylliant cynhwysol mewn modd rhagweithiol.  
  • Ymagwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu a gwahaniaethu.
  • Y cyfle i fod yn aelod o rwydwaith staff sy'n darparu cymorth cyfoedion ac sy’n cyfrannu at newid sefydliadol o ran materion diwylliant.

Darllenwch ragor am ein hymrwymiad yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol (ar gael ym mis Ebrill 2024).

Mae gan ein Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant gynllun gweithredu Gwrth-hiliaeth ei hun, ac mae gan weithwyr sy'n gweithio mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf fynediad at amrywiaeth o adnoddau er mwyn sicrhau bod dull Gwrth-hiliaeth yn cael ei hymgorffori yn rhan o ddiwylliant yr ysgol a'r cwricwlwm.