Skip to main content

Llyfrgell i Blant

Mae gan bob Llyfrgell adran i blant a phobl ifainc er mwyn eu cynorthwyo nhw ym mhob elfen o’u dysgu.
Edrychwch ar ba wasanaethau sydd ar gael yn eich llyfrgell leol.
Er mwyn manteisio ar eich llyfrgell leol, bydd rhaid i chi ymaelodi. Ymaelodwch ar-lein.

Mae croeso i blant o unrhyw oed ymaelodi â’r llyfrgell a benthyg llyfrau ac am ddim.

Mae straeon yn amrywio o lyfrau bwrdd i blant bach a nofelau i bobl yn eu harddegau. Mae gennym ni adrannau ‘Darllen Cyflym’ i blant sydd newydd ddechrau darllen ar eu pennau eu hunain.

Os oes angen help arnoch chi gyda’ch gwaith cartref neu brosiect ysgol, mae gan bob llyfrgell ystod eang o lyfrau gwybodaeth.

Caiff casgliadau Cymraeg eu cadw ym mhob Llyfrgell. 

Casgliadau llyfrau arbennig

Mae llyfrau lluniau iaith ddeuol mewn detholiad o ieithoedd o Arabeg i Wrdw a llyfrau lluniau Braille a Llythrennau Bras yn cael eu cadw mewn Stoc wrth Gefn ac maen nhw ar gael ar gais o unrhyw gangen llyfrgell. 

E-Teens

Mae Llyfrgell Treorci yn gartref i lyfrgell benodol ar gyfer pobl ifainc lle mae modd iddyn nhw gael gafael ar lyfrau ac amrywiaeth eang o achlysuron a gweithgareddau. Am ragor o wybodaeth am achlysuron yn E-teens, e-bostiwch Lindsey.M.Poole@rctcbc.gov.uk 

Gwasanaeth y Llyfrgelloedd i Ysgolion

Mae Gwasanaeth y Llyfrgelloedd i Ysgolion yn cynnig gwasanaeth benthyca a chynghori gwerth yr arian i ysgolion cynradd yn Rhondda Cynon Taf.  Am ragor o wybodaeth am ein casgliadau Empathy Lab, benthyciadau prosiect wedi'i deilwra neu Arweinydd Dosbarth, ffoniwch 01685 885228 neu e-bostio LlyfrgellYsgolion@rhondda-cynon-taf.gov.uk