Skip to main content

Beth yw'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)?

Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn system codi tâl newydd. Mae'n fodd i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru (a Lloegr) godi cronfeydd a chyllid ar ddatblygwyr sy'n ymgymryd â phrosiectau adeiladu newydd yn eu hardal.

Mae'r ASC yn gymwys a pherthnasol i arwynebedd llawr newydd. Mae'r taliadau wedi'u seilio ar faint a math y datblygiad newydd.  

Ar beth fydd arian Ardoll Seilwaith Cymunedol yn cael ei wario?

Bydd y cronfeydd a godir yn mynd tuag at seilwaith sydd ei angen i gefnogi twf, megis ysgolion a gwelliannau trafnidiaeth.

Y Cyngor fydd yn gyfrifol am gasglu'r ardoll, am gyd-drefnu gwario'r cronfeydd, ac am adrodd a rhoi gwybod am hyn i'r gymuned.

Rhagor o Wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth a chyfarwyddyd ynghylch ASC ar gael yma: Ardoll Seilwaith Cymunedol – Arweiniad a Chanllaw

Oes angen rhagor o gymorth arnoch? Cysylltwch â ni:

Tîm Gorfodaeth

2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH

Ffôn: 01443 281128