Skip to main content

Adeiladau Rhestredig

Mae adeiladau rhestredig yn werthfawr ac yn brin. Maen nhw’n cyfoethogi cymeriad, ymddangosiad a hunaniaeth yr amgylchedd ac yn arwyddion pwysig i’n hatgoffa ni o’n hanes cymdeithasol.

Caiff adeiladau, strwythurau a gwrthrychau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig eu rhestru gan Cadw drwy Lywodraeth Cymru. Yn Rhondda Cynon Taf mae bron i 360 o Adeiladau Rhestredig. Cân nhw eu rhestru am nifer o resymau, fel oed, teilyngdod pensaernïol, prinder, dull adeiladu, cysylltiadau enwog a gwerth grŵp.

Dydy rhestru ddim yn ceisio atal pob math o newid i adeilad yn y dyfodol. Parhau i ddefnyddio adeilad, mewn ffordd newydd o bosibl, yw’r ffordd haws yn aml o sicrhau ei fod yn goroesi. Prif nod rhestru yw diogelu adeilad rhag cael ei ddymchwel neu ei newid mewn ffordd nad yw’n gydnaws â’i ffurf wreiddiol. Os dymunwch chi newid adeilad Rhestredig rhaid i chi gael Caniatâd Adeilad Rhestredig yn gyntaf.

Graddau Adeiladau Rhestredig

Mae un o dair gradd yn cael ei ddyfarnu i adeiladau rhestredig, sy’n dynodi eu priod bwysigrwydd:

  • Gradd I
  • Gradd II*
  • Gradd II.

Mae adeiladau rhestredig Gradd I a II* yn ffurfio cyfran fach (tua 6% yn genedlaethol) o’r holl adeiladau rhestredig.  Maen nhw’n arbennig o bwysig i dreftadaeth adeiledig y genedl fel adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Caiff gweddill yr adeiladau eu rhestru fel rhai gradd II ac maen nhw’n cynrychioli rhan bwysig o’n treftadaeth adeiledig sy’n cael ei diogelu’n arbennig.

Mae modd newid graddau pan gaiff gwaith ailbrisio ei gynnal ar ôl difrod neu newid, neu wrth i fwy o dystiolaeth am ansawdd hanesyddol neu bensaernïol adeilad ddod i’r amlwg. Ond mae’r rheolau statudol ynghylch addasiadau yr un mor berthnasol i bob adeilad rhestredig waeth bynnag ei radd.

Bydd angen caniatâd y Cyngor arnoch i ddymchwel adeilad rhestredig neu i gynnal unrhyw waith addasu neu ymestyn a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol. Mae’r angen am ganiatâd adeilad rhestredig yn wahanol i ganiatâd cynllunio ond mae’r broses ei hun yn eithaf tebyg.

Mae’n drosedd cyflawni gwaith ar adeilad rhestredig heb gael caniatâd rhestredig ymlaen llaw - hyd yn oed os nad oeddech yn ymwybodol bod yr adeilad yn un rhestredig. Gallai cyflawni gwaith heb awdurdod arwain at gosb drwy ddirwy neu ddedfryd o garchar a gall y Cyngor fynnu i chi adfer yr adeilad i’w gyflwr blaenorol.

Sut galla i gael Caniatâd Adeilad Rhestredig?

Mae ffurflenni cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gael drwy fynd i’r ddolen isod. Dylech chi gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl gyda’ch ffurflen gais – i gyfiawnhau’n arbennig yr hyn rydych chi am ei wneud a pha ddeunyddiau rydych chi’n bwriadu eu defnyddio. Os na rowch chi ddigon o wybodaeth gallai hyn arwain at oedi.

Gallwch wneud cais am gydsyniad Buidling rhestredig ar-lein

Unwaith caiff manylion eich cais eu derbyn a’u cofrestru, cân nhw eu hysbysebu a gwahoddir sylwadau gan amrywiol gyrff lleol a chenedlaethol cyn penderfynu naill ai roi caniatâd neu ei wrthod. Yn gyffredinol dylech chi ganiatáu 8 wythnos ar gyfer hyn. Gallai rhai ceisiadau gymryd rhagor o amser. Os caiff eich cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ei wrthod neu ei ganiatáu ond gydag amodau, gallwch chi apelio at Arolygiaeth Cynllunio Cymru.

Ar ben Caniatâd Adeilad Rhestredig, mae’n bosibl y bydd angen Caniatâd Cynllunio a Chymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu arnoch chi i addasu ac ymestyn Adeilad Rhestredig. Os felly, fe’ch cynghorir i gyflwyno’ch Cais Cynllunio ar yr un pryd â’ch cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig. Cofiwch, mae’n bosibl y bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer addasiadau ac estyniadau, hyd yn oed os nad oes angen Caniatâd Cynllunio.

Rhagor o wybodaeth 

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am Adeiladau Rhestredig a’r broses gynllunio drwy fynd i’r Porth Cynllunio a safle safle Treftadaeth Gwyn Headley.

Cysylltwch

Rheoli Datblygu

Tŷ Sardis,
Heol Sardis
Pontypridd
CF37 1DU

Ffôn: 01443 281130
Mae’r swyddfa ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 4pm