Skip to main content
Alert Symbol
Mae rhybudd tywydd MELYN y Swyddfa Dywydd o law mewn grym tan 7pm ddydd Iau 18 Rhagfyr. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Cynllunio – Cyflwyno cais

NODWCH: Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio o 1 Rhagfyr 2025.

Cyflwynwch gais am ganiatâd cynllunio ar-lein gyda'n canllawiau cam wrth gam.

  • Tâl gwasanaeth y Porth Cynllunio: £70.83 +TAW

  • Trothwy isafswm ffioedd: £100 (fydd dim tâl gwasanaeth ar gyfer ceisiadau sy'n llai na £100).

Cyngor ar gyflwyno cais cynllunio

Ceisiadau papur

Mae modd argraffu ffurflen gais a'i hanfon trwy'r post i:

Gwasanaethau Cynllunio
Llawr 2,
2 Llys Cadwyn,
Pontypridd,
CF37 4TH

Dewiswch y ffurflen gywir o'r tabl isod.

Rhybudd cyn cyflwyno cais

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais wedi'i gwblhau'n gywir. Os bydd unrhyw wybodaeth ar goll neu os bydd rhannau heb eu cwblhau, bydd eich cais yn cael ei oedi a fydd dim modd ei gofrestru hyd nes y bydd yr holl wybodaeth wedi'i darparu.
Ffurflen gaisCanllawiauDisgrifiad
Cais gan ddeiliad tŷ Canllawiau: Cais gan ddeiliad tŷ Cais ar gyfer eiddo domestig, e.e. estyniad, sied, garej ac ati.
Cais am hysbysiad ymlaen llaw am waith dymchwel arfaethedig Canllawiau: Cais am hysbysiad ymlaen llaw ynghylch gwaith dymchwel arfaethedig Cais am hysbysiad ymlaen llaw ynghylch gwaith dymchwel arfaethedig.
Cais gan ddeiliad tŷ a chaniatâd ardal gadwraeth Canllawiau: Cais gan ddeiliad tŷ a chaniatâd ardal gadwraeth Cais ar gyfer adeilad domestig mewn ardal gadwraeth.
Cais gan ddeiliad tŷ a chaniatâd adeilad rhestredig Canllawiau: Cais gan ddeiliad tŷ a chaniatâd adeilad rhestredig Cais ar gyfer eiddo domestig sy'n adeilad rhestredig.
Cais llawn Canllawiau: Cais llawn Cais ar gyfer eiddo preswyl ac eiddo masnachol newydd ac estyniad/newid i eiddo masnachol.
Cais am ganiatâd cynllunio amlinellol â rhai materion wedi'u cadw'n ôl Canllawiau: Cais am ganiatâd cynllunio amlinellol â rhai materion wedi'u cadw'n ôl Cais am ganiatâd cynllunio amlinellol â rhai materion wedi'u cadw'n ôl – eiddo domestig ac eiddo masnachol.
Cais am ganiatâd cynllunio amlinellol â'r materion i gyd wedi'u cadw'n ôl Canllawiau: Cais am ganiatâd cynllunio amlinellol â'r materion i gyd wedi'u cadw'n ôl Cais am ganiatâd cynllunio amlinellol â'r materion i gyd wedi'u cadw'n ôl – eiddo domestig ac eiddo masnachol.
Cais i gymeradwyo materion sydd wedi'u cadw'n ôl Canllawiau: Cais i gymeradwyo materion sydd wedi'u cadw'n ôl Cais i gymeradwyo materion sydd wedi'u cadw'n ôl, yn dilyn cael caniatâd cynllunio amlinellol.
Cais i ddileu neu amrywio amod Canllawiau: Cais i ddileu neu amrywio amod Cais i ddileu neu amrywio amod yn dilyn cael caniatâd cynllunio.
Cais am ganiatâd i arddangos hysbyseb Canllawiau: Cais am ganiatâd i arddangos hysbyseb Cais am ganiatâd i arddangos hysbyseb.
Cais am ganiatâd mewn ardal gadwraeth Canllawiau: Cais am ganiatâd mewn ardal gadwraeth Cais ar gyfer unrhyw addasiad mewnol neu allanol neu gais ar gyfer gwaith dymchwel mewn ardal gadwraeth.
Cais am ganiatâd adeilad rhestredig Canllawiau: Cais am ganiatâd adeilad rhestredig Cais ar gyfer unrhyw addasiad mewnol neu allanol neu gais ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig.
Cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon (presennol) Canllawiau: Cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer defnydd neu weithrediad neu weithgaredd presennol Penderfynu a yw defnydd, gweithrediad neu weithgaredd presennol yn gyfreithlon, gan gynnwys y rheiny sy'n torri amodau.
Cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer defnydd neu ddatblygiad arfaethedig Canllawiau: Cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer defnydd neu ddatblygiad arfaethedig Cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer defnydd neu ddatblygiad arfaethedig.
Cais am hysbysiad ymlaen llaw – telathrebu Canllawiau: Cais am hysbysiad ymlaen llaw – telathrebu Cais am hysbysiad ymlaen llaw ynghylch datblygiad arfaethedig gan weithredwyr systemau côd telathrebu.
Cais am hysbysiad ymlaen llaw am ddatblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – adeilad arfaethedig Canllawiau: Cais am hysbysiad ymlaen llaw ynghylch datblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – adeilad arfaethedig Cais ar gyfer datblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – adeilad arfaethedig.
Cais am hysbysiad ymlaen llaw am ddatblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – ffordd arfaethedig Canllawiau: Cais am hysbysiad ymlaen llaw ynghylch datblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – ffordd arfaethedig Cais ar gyfer datblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – ffordd arfaethedig.
Cais am hysbysiad ymlaen llaw am ddatblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – cloddio/gwastraff Canllawiau: Cais am hysbysiad ymlaen llaw ynghylch datblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – cloddio/gwastraff Cais ar gyfer datblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – cloddio/gwastraff.
Cais i gael gwared â gwrych Canllawiau: Cais am hysbysiad ynghylch cael gwared â gwrych Cais am hysbysiad ynghylch cael gwared â gwrych.
Cais i wneud gwaith ar goed Canllawiau: Cais i wneud gwaith ar goed Cais i wneud gwaith ar goed sydd dan orchymyn cadw coed a/neu hysbysiad ynghylch gwaith arfaethedig ar goed mewn ardaloedd cadwraeth.

Llenwi’ch ffurflen cais cynllunio

Ar ôl dod o hyd i'r ffurflenni cais cywir, y cam nesaf yw llenwi'r adrannau perthnasol a chyflwyno'r dogfennau a'r dyluniadau angenrheidiol gyda'ch cais cynllunio. Mae'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio yn gofyn am ffi cyflwyno|. Ar ôl dod o hyd i'r ffurflenni cais cywir, y cam nesaf yw llenwi adrannau perthnasol y ffurflen a chyflwyno'r dogfennau a'r dyluniadau angenrheidiol gyda'ch cais cynllunio. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, galwch heibio i un o'n canolfannau I Bob Un i siarad ag ymgynghorydd.

Ffioedd cais cynllunio

Fel arfer, bydd rhaid talu ffi am gyflwyno cais cynllunio. Bydd y ffi yma yn dibynnu ar y math o ddatblygiad.

Mae rhestr ffioedd ar gael i'w lawrlwytho.

Cyflwyno eich cais cynllunio

Os byddwch chi'n dewis peidio â chyflwyno cais ar-lein trwy'r Porth Cynllunio, bydd croeso i chi lenwi'r ffurflen gais a'i chyflwyno hi drwy'r post i:

Gwasanaethau Cynllunio
Llawr 2, 
2 Llys Cadwyn
Pontypridd
CF37 4TH

Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd ei gywirdeb gweinyddol a'r ffi briodol yn cael eu gwirio.

Byddwch chi (neu eich asiant) yn derbyn nodyn, unwaith fydd cyfeirnod unigryw, gyda manylion y swyddog cynllunio wedi'i neilltuo i'r achos.

Os oes unrhyw wybodaeth wedi'i hepgor byddwn yn ysgrifennu atoch. Fydd hi ddim yn bosibl cofrestru eich cais nes i'r wybodaeth fod yn gyflawn.