Skip to main content

Ceisiadau cynllunio gwrthwynebu, cefnogi neu roi sylwadau

Mae ceisiadau cynllunio yn cael eu hysbysebu mewn nifer o ffyrdd gwahanol er mwyn sicrhau bod y broses o benderfynu arnyn nhw mor agored ac eglur ag sy'n bosibl.

Mae llythyrau hysbysu yn cael eu hanfon i bob eiddo sy'n gyfagos â'r safle mae'r cais ar ei gyfer, ac mae'n bosibl y bydd hysbysiadau yn cael eu rhoi yn y wasg yn achos rhai mathau penodol o geisiadau. Mae rhestr wythnosol o'r ceisiadau cynllunio sy'n cael eu derbyn hefyd yn cael ei pharatoi a'i chylchredeg.

Mae croeso i unrhyw un roi sylwadau ynglŷn â cheisiadau cynllunio neu ddatblygiadau - naill ai er mwyn gwrthwynebu, cefnogi neu roi sylwadau cyffredinol. Mae rhaid i'r sylwadau gael eu cyflwyno trwy lythyr, a byddan nhw'n cael eu cydnabod. Bydd yr holl sylwadau ar gael i'r cyhoedd ac mae'n bosibl y bydd adroddiadau sy'n cael eu rhoi i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn cyfeirio atyn nhw.

Cyn cyflwyno'ch sylwadau, dylech chi geisio bwrw golwg dros y ffurflen gais ac unrhyw gynlluniau sy'n cyd-fynd â hi. Mae'n bosibl gwneud hyn ar-lein, neu yn y Ganolfan I Bob Un, Tŷ Sardis, Pontypridd,. Ffoniwch 01443 425004 neu anfon e-bost: GwasanaethauCynllunio@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Mae pob agwedd ar geisiadau cynllunio yn cael eu hystyried er mwyn diogelu budd y cymdogion a dymunoldeb y gymuned ehangach. Os yw'n briodol, mae'n bosibl y byddwn ni'n gallu mynnu bod y cynlluniau'n cael eu diwygio cyn rhoi sêl bendith arnyn nhw, neu osod amodau penodol er mwyn lleddfu unrhyw broblemau posibl yn sgil y datblygiad dan sylw.

Dydy'ch sylwadau ddim yn cael eu hystyried yn bleidlais o blaid neu yn erbyn y cynllun dan sylw, ond maen nhw'n ddefnyddiol iawn o ran tynnu sylw at agweddau penodol ar gynigion sydd, o bosibl, yn anfoddhaol neu'n destun pryder.

Er mwyn sicrhau bod yr holl sylwadau yn cael eu hystyried, fydd dim penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd y cyfnod ymgynghori. Mae'r cyfnod yma'n 21 diwrnod o hyd ac mae'r dyddiadau'n cael eu nodi yn ein llythyrau hysbysu, yn yr hysbysiadau ar y safle neu yn y wasg (os yw'n briodol), neu ar ein gwefan.

Mae'n bosibl gwrthod caniatâd cynllunio, ond dim ond os oes rhesymau da a chadarn dros wneud hynny. 

Ceisiwch ystyried yr agweddau cyffredinol canlynol ar y cynigion (fydd rhai ohonyn nhw ddim yn berthnasol ym mhob achos).

  • Os ydy'r cais mewn perthynas â newid defnydd y safle, ydych chi'n meddwl bod y defnydd sy'n cael ei gynnig yn addas ar gyfer yr ardal?
  • Beth ydy'ch barn chi ar olwg cyffredinol, maint, uchder a dyluniad y datblygiad?
  • Ydych chi'n meddwl bydd y datblygiad yn effeithio arnoch chi mewn unrhyw ffordd, e.e. trwy golli golau dydd, cysgodi, colli preifatrwydd ac ati?
  • Ydych chi'n meddwl bydd y datblygiad yn achosi unrhyw niwsans neu aflonyddwch, e.e. yn sgil traffig yn teithio i'r safle ac yn ôl?
  • Ydych chi'n meddwl bydd y datblygiad yn cael effaith negyddol arnoch chi mewn unrhyw ffordd?
  • Ydych chi'n meddwl bydd y datblygiad yn cael unrhyw effaith negyddol ar yr ardal yn gyffredinol?

Ymhlith y rhesymau sy'n cael eu nodi amlaf, ond sydd ddim yn gallu cael eu hystyried, yw:

  • Yr effaith bosibl y bydd y datblygiad yn ei chael ar werth yr eiddo cyfagos;
  • Anghydfod ynglŷn ag union leoliad y ffin rhwng pob eiddo;
  • Colli golygfeydd;
  • Y posibilrwydd o golli masnach i fusnes newydd;
  • Materion cyfreithiol preifat, e.e. cyfamodau cyfyngu.

Dylech chi, hefyd, wybod ei bod hi'n bosibl bwrw ymlaen â mathau penodol o ddatblygiadau heb gael caniatâd cynllunio. Yn gyffredinol, does dim ffyrdd ymarferol gan y Cyngor o atal y datblygiadau hynny, felly, does dim ots am ba mor gadarn na dilys mae'r gwrthwynebiad. Am ragor o wybodaeth, ewch i  
Oes angen caniatâd cynllunio arna i? ar wefan y Porth Cynllunio
.

Gwrthwynebu, cefnogi neu roi sylwadau ar-lein

Cewch chi ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein er mwyn cofrestru a rhoi sylwadau ar-lein. Mae'r broses yn cymryd ychydig funudau, yna cewch chi olrhain ceisiadau ac arbed chwiliadau.

  • Cofrestru
  • Mewngofnodi i'ch cyfrif
  • Cliciwch ar “Search > Planning > Simple search” a dewch o hyd i'r cais rydych chi eisiau rhoi sylwadau ynglŷn ag e.
  • Ar ochr dde y dudalen, cliciwch ar “Make a public comment”.
  • Nodwch eich sylwadau.
  • Cliciwch ar “Submit”.

Gwrthwynebu, cefnogi neu roi sylwadau drwy e-bost neu'r post

Anfonwch neges e-bost i:

GwasanaethauCynllunio@rhondda-cynon-taf.gov.uk

neu anfonwch lythyr i:

Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Tŷ Sardis, Sardis Road, PontypriddCF37 1DU

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys:

  • Eich enw;
  • Eich cyfeiriad;
  • Cyfeirnod y cais cynllunio.

COFIWCH: Bydd yr holl sylwadau ar gael i'r cyhoedd eu darllen, mae'n bosibl y bydd adroddiadau sy'n cael eu rhoi i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn cyfeirio atyn nhw, ac mae'n bosibl y byddan nhw'n cael eu harddangos ar-lein. Mae disgwyl i ni wneud hyn yn ôl y gyfraith, felly, dydyn ni ddim yn gallu ystyried unrhyw sylwadau yn “gyfrinachol”. 

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni.
Ffôn: 01443 281130 / 01443 281134
E-bost: GwasanaethauCynllunio@rctcbc.gov.uk