Awgrymiadau Ailgylchu dros y Nadolig
- Golchwch gynwysyddion bwyd a photeli diodydd yn y dŵr sy'n weddill ar ôl i chi olchi'ch llestri cyn eu rhoi nhw yn eich bagiau ailgylchu!
- Sicrhewch fod digon o fagiau ailgylchu gyda chi cyn cyfnod y Nadolig. Mae modd casglu bagiau o'r mannau casglu ledled RhCT.
- Parciwch yn synhwyrol, fel bod modd i gerbydau gael mynediad at eich stryd chi'n ddiogel.
- Cofiwch roi'r sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r palmant.
- Rhowch yr HOLL bapur lapio a bagiau anrhegion mewn bag CLIR ar wahân gan gynnwys ffoil a chynnyrch sgleiniog.
- Trefnwch i ni gasglu'ch coeden Nadolig go iawn ar-lein o'r 4 Rhagfyr yma: www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig