Er mwyn cael rhagor o le yn eich cartref dros y Nadolig, mae modd i chi fynd ag eitemau nad oes modd eu casglu o ymyl y ffordd, fel hen deganau, dillad neu nwyddau trydanol, i'ch
Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol.
Mae ein canolfannau ar agor rhwng 8am a 5.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan. Byddan nhw'n ailagor dydd Mawrth 2 Ionawr 2024.
Dydd Iau 21 Rhagfyr
|
Dim newid
|
Dydd Gwener 22 Rhagfyr
|
Dim newid
|
Dydd Sadwrn 23 Rhagfyr
|
Dim newid
|
Dydd Sul 24 Rhagfyr
|
8.00am – 3.30pm
|
Dydd Llun 25 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Mawrth 26 Rhagfyr
|
AR GAU
|
Dydd Mercher 27 Rhagfyr
|
Dim newid
|
Dydd Iau 28 Rhagfyr
|
Dim newid
|
Dydd Gwener 29 Rhagfyr
|
Dim newid
|
Dydd Sadwrn 30 Rhagfyr
|
Dim newid
|
Dydd Sul 31 Rhagfyr
|
8.00am – 3.30pm
|
Dydd Llun 1 Ionawr
|
AR GAU
|
Dydd Mawrth 2 Ionawr 2024
|
Gwasanaethau arferol yn ailddechrau
|
Bydd yr oriau agor arferol yn ailddechrau o ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.
Cofiwch ddidoli eich eitemau i'w hailgylchu yn ddeunyddiau papur, cardfwrdd, gwydr a metal ac ati cyn mynd i'r canolfannau. Bellach, dydyn nhw ddim yn derbyn bagiau ailgylchu cymysg na gwastraff bagiau du.
RHAID peidio â rhoi gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig 'go iawn' mewn bag, a'u rhoi nhw i mewn i'r cynwysyddion.
Beth fydd fy Nghanolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol yn ei dderbyn?
Bydd y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn derbyn coed Nadolig go iawn a rhai artiffisial. Cofiwch dynnu POB golau ac addurn oddi ar y goeden ymlaen llaw.