Skip to main content

Sut i ailgylchu'ch gwastraff gwyrdd

Rhowch y gwastraff gwyrdd yn y sach gwastraff gwyrdd. Ar eich diwrnod casglu, rhowch eich sach gwastraff gwyrdd wrth eich man casglu biniau arferol cyn 7am.

Rydyn ni eisiau tynnu eich sylw at y canlynol:

  • Dydych chi ddim yn cael rhoi gwastraff gwyrdd mewn bagiau ailgylchu clir a rhaid ichi ymuno â'r cynllun cyn bod modd i ni ddechrau casglu
  • Os yw'ch sachau heb eu casglu mae'n bosibl nad ydych chi wedi cael eich cofrestru a bydd angen i chi ymuno â'r cynllun
  • Peidiwch â gorlenwi'ch sachau gwastraff gwyrdd. Efallai y bydd angen prynu sachau ychwanegol, os bydd angen. Prynu Sachau Gwastraff Gwyrdd
  • Dim ond gwastraff gwyrdd mae modd i chi ei roi yn eich sachau gwastraff gwyrdd – os oes unrhyw wastraff arall yn eich sachau gwastraff gwyrdd fel pridd, rwbel a phren, fyddan nhw ddim yn cael eu casglu
  • Os fyddwch chi ddim yn rhoi unrhyw wastraff gwyrdd allan dros gyfnod o 12 casgliad, mae'n bosib y cewch eich tynnu oddi ar y rownd gasglu a bydd angen i chi gofrestru eto. Mae hyn yn cyfeirio at gasgliadau ac nid wythnosau. Bydd yn ystyried bod casgliadau'n digwydd bob pythefnos yn y gaeaf a bydd egwyl dros gyfnod y Nadolig
  • Peidiwch â defnyddio sachau mae cymdogion neu ffrindiau wedi'u rhoi i chi – fyddan nhw ddim yn cael eu casglu. Byddwn ni ond yn casglu o gartrefi sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y cynllun
  • Sicrhewch fod eich sachau gwastraff gwyrdd wedi'u gosod allan i'w casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu ac ewch â'ch sachau gwastraff gwyrdd yn ôl i mewn ar ôl i'ch casgliad ddigwydd.