Skip to main content

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhowch wybod am gyfeiriad newydd neu os hoffech chi adael y cynllun casglu gwastraff gwyrdd.


Newid cyfeiriad

Os oedd eich cyfeiriad newydd eisoes yn rhan o'r cynllun casglu gwastraff gwyrdd, dylai'r sachau fod yno yn barod ar eich cyfer. Os nad oes unrhyw sachau wedi'u gadael, rhowch wybod i ni trwy lenwi’r ffurflen ar-lein.

Os dydy'r eiddo newydd ddim wedi'i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd, byddwch cystal â chofrestru'r eiddo ar gyfer casgliadau.

Gadael y cynllun casglu gwastraff gwyrdd

Mae modd i breswylwyr dynnu'u henw oddi ar y rhestr ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd drwy lenwi'n ffurflen ar-lein. Bydd ein gweithwyr yna'n cymryd eich sachau i ffwrdd ar eich diwrnod casglu gwastraff gwyrdd nesaf.

Tynnwch eich enw oddi ar y rhestr ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd drwy lenwi'n ffurflen ar-lein

Sylwch – does dim modd eich ad-dalu ar gyfer sachau ychwanegol a gafodd eu harchebu.