Skip to main content

Prydau Ysgol Ysgolion Cynradd

Mae Gwasanaethau Arlwyo RhCT yn darparu bwyd;en flasus a maethlon i holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n cynnig bwydlen dros ddwy wythnos o brydau poeth, ynghyd â bar salad dyddiol, bwydlen brechdanau/bageti ac opsiwn tatws drwy'u crwyn. Mae ein prydau yn cynnwys pwdin a diod. Mae pob ysgol yn cynnig bara gwenith cyflawn diderfyn ac yn ogystal â phwdin y dydd. Rydyn ni hefyd yn cynnig dewis cyfyngedig o iogwrt rhew, caws & cracers neu ffrwythau ffres bob dydd         

Bwydlenni

RHIFAU WYTHNOSOL Y FWYDLEN MENU WEEK NUMBERS

*Oherwydd argaeledd cyflenwyr, mae'n bosibl bydd cynhyrchion yn newid.

Oes gan eich plentyn oed ysgol cynradd alergedd neu anoddefiad bwyd, neu gyflwr meddygol a fydd yn golygu bydd angen Gofynion dietegol sydd wedi'u rhagnodi'n feddygol? Os felly, mae gan y Gwasanaethau Arlwyo gyfleuster ar-lein lle mae modd gofyn am ddiet a ragnodwyd yn feddygol. Cofrestru gofyniad dietegol a ragnodir yn feddygol.

 Nodwch: Rydyn ni'n prynu bwyd sydd heb ddatgan cnau fel cynhwysyn. Serch hynny, hyd yn oed gyda mesurau rheoli croeshalogi rhagweithiol, mae nifer o brosesau trin yn y gadwyn gyflenwi yn cyflwyno'r posibilrwydd y bydd olion yn parhau. Does dim modd i ni reoli'r bwydydd y mae cwsmeriaid eraill yn dod â nhw i mewn i'r safle bwyta. 

Mae risg weddilliol yn parhau o ran bwyd wedi'i ddarparu gan Wasanaethau Arlwyo RhCT felly 'gall gynnwys olion cnau neu elfennau sy'n deillio o gnau'. Dylai cwsmeriaid sydd ag alergedd cnau ystyried y risg cyn prynu/bwyta unrhyw fwydydd.

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

Ym mis Medi 2022, dechreuodd y broses o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ledled Cymru, gan gychwyn gyda disgyblion y dosbarth Derbyn. Mae'r polisi'n rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru; mae'n golygu y bydd cynnig prydau ysgol am ddim yn cael ei ymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y ddwy flynedd nesaf. 

Yn dilyn cyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd i ddisgyblion oedran y Derbyn, Blynyddoedd 1-4, a disgyblion cymwys o ran oedran yn y Meithrin, yn Rhondda Cynon Taf, bydd y cam nesaf yn dechrau o 8 Ebrill 2024, lle bydd y cynnig yn cael ei ymestyn i gynnwys pob disgybl ym Mlwyddyn 5 a 6 a disgyblion cymwys yn y Meithrin.

Cwestiynau Cyffredin - Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

Cwestiynau Cyffredinol – Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ar gyfer Disgyblion Meithrin

Talu am eich cinio ysgol

Pryd Ysgol Gynradd – £2.70 y pryd

Gallwch bellach dalu ar-lein am brydau ysgol eich plentyn.

Mae ein prydau'n cydymffurfio â gofynion rheoliadau Safonau a Gofynion Maeth Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr

Pam ddylech chi ddewis prydau ysgol?

  • Mae ein bwydlenni yn faethlon cytbwys ac o dan reolaeth
  • Mae'n arbed amser i rieni/gwarcheidwaid
  • Mae gan bob aelod o staff gymhwyster 'Hylendid Bwyd Sylfaenol', fan lleiaf
  • Mae ein pecynnau cinio wedi'u gwneud yn ffres bob dydd ac yn cael eu cadw'n oer tan iddyn nhw gael eu gweini.

Newyddion

Cysylltwch â ni - gwasanaethauarlwyo@rctcbc.gov.uk