Rydyn ni'n ffodus iawn yn Rhondda Cynon Taf bod y rhan fwyaf ohonom ni'n byw neu'n gweithio ger parc, ardal chwarae neu fan agored.
Mae mynd allan a mwynhau'r awyr agored bellach yn bwysicach nag erioed o'r blaen, a diolch byth mae gan Rondda Cynon Taf lawer i'w gynnig:
Mae 10 prif barc yn Rhondda Cynon Taf ac mae pob un ohonyn nhw'n unigryw ac yn cynnig amrywiaeth o bethau hwyl i'w gwneud – gan gynnwys lawntiau bowlio a mannau chwarae, cychod pedlo alarch a ffynhonnau thermol. Mae gan bob parc lawer o bethau i'ch difyrru chi drwy'r dydd.
I gael rhagor o wybodaeth am bethau i'w gwneud a diwrnodau allan gwych yn Rhondda Cynon Taf ewch i wefan dwristiaeth y Cyngor.
Mae mannau chwarae yn rhan hanfodol o'r gymuned ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn berchen ar ac yn cynnal dros 200 o fannau chwarae ledled y Fwrdeistref Sirol. Ers 2015, mae'r Cyngor wedi buddsoddi dros £4.3 miliwn er mwyn adnewyddu'r safleoedd yma i bobl ifainc eu mwynhau. Mae'r Cynghorau Cymuned lleol a sefydliadau eraill yn berchen ar ac yn cynnal mannau chwarae lleol hefyd.
Mae modd i chi ddod o hyd i'ch man chwarae agosaf trwy ddefnyddio'r map isod. Os nad yw'ch ardal chwarae leol wedi'i rhestru, rhowch wybod i ni trwy e-bostio Parciaucefngwlad@rctcbc.gov.uk a bydd modd inni ei ychwanegu at y map
Mae gyda'r Cyngor lawer o safleoedd eraill sydd ddim mor gyfarwydd i chi efallai. Dyma rai o'n ffefrynnau. Cofiwch roi wybod i ni ble rydych chi'n gweld bywyd gwyllt yn Rhondda Cynon Taf:
- Coed Duffryn (Aberpennar)
- Maes Chwaraeon Glynhafod (Cwmaman)
- Parc Llwydcoed
- Parc Heddwch (Aberpennar)
- Pwll Sioni (Trefforest)
- Meysydd Hamdden Parc Fictoria (Aberpennar)
- Parc Nant Celyn (Efail Isaf)
- Gwarchodfa Natur Craig yr Hesg (Pontypridd)
I ddod o hyd i'ch parc lleol neu'ch safle cefn gwlad agosaf, gwelwch y map isod: