Skip to main content

Park Run ym Mharc Coffa Ynysangharad

Beth yw Parkrun Pontypridd?

Ras 5 cilomedr yw e – chi yn erbyn y cloc.

Pryd mae e?

Bob bore Sadwrn am 9:00am.

Ble mae e?

Mae’n cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Bridge Street, Pontypridd, CF37 4PE. Gweld y cwrs a rhagor o fanylion ar y dudalen yma.

Beth yw’r gost?

Mae’n rhad ac am ddim! Ond cofiwch gofrestru  cyn eich ras gyntaf. Dim ond unwaith sydd rhaid i chi gofrestru. Cofiwch ddod â chopi o’ch côd bar wedi’i argraffu (cliciwch yma i weld y côd). Os byddwch chi’n ei anghofio, fyddwch chi  ddim yn cael eich amseru.

Pa mor gyflym bydd rhaid i mi redeg?

Rydyn ni’n rhedeg am hwyl. Dewch i ymuno â ni – does dim ots am eich cyflymder!

Mae ‘Parkrun’ Pontypridd eich angen chi!

Gwirfoddolwyr sy’n trefnu’r cyfan – anfonwch e-bost pontypriddhelpers@parkrun.com er mwyn rhoi help llaw.

Rydyn ni’n gyfeillgar!

Bob wythnos, rydyn ni’n mynd am goffi ar ôl y ras yng Nghaffi’r Prince’s (lan lofft), Taff Street, Pontypridd – bydd croeso mawr i chi ddod i ymuno â ni!

Ewch i www.parkrun.org.uk/pontypridd i gael rhagor o fanylion.