Browser does not support script.
O gemau gyda theganau gwynt ar y dŵr i feysydd chwarae â thema ddiwydiannol a hanes anthem genedlaethol Cymru - mae rhywbeth at ddant pawb ym Mharc Coffa Ynysangharad!
Mae'r ardal agored ENFAWR yma yng nghanol Pontypridd lai na hanner awr o Gaerdydd ac yn hawdd ei gyrraedd mewn car, bws neu drên. Yn cynnig diwrnod allan gwych i bob oedran, mae'r parc hefyd yn Borth Darganfod ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd ac yn rhan o brosiect i gysylltu mannau agored ar draws y rhanbarth i ddathlu a gwarchod ein treftadaeth ddiwylliannol, ddiwydiannol a naturiol.