Mae'r llwybr llafar yn cynnwys lleisiau haneswyr lleol a chyn-lowyr sy'n eich tywys ar daith ddiddorol o gwmpas pyllau glo enwog Cwm Rhondda.
Gan adael Taith Pyllau Glo Cymru ar safle hen Lofa Lewis Merthyr, mae'r llwybr yn mynd â chi heibio i nifer o hen safleoedd diwydiannol, gan gynnwys Tramffordd Dr Richard Griffiths a'r Pwll Glo Drifft.
Mae'r daith 3.2km yn para tuag awr a hanner. Naill ai cyn neu ar ôl eich taith, dylech chi ymweld â Thaith Pyllau Glo Cymru er mwyn dysgu rhagor. Cewch chi'ch tywys ar deithiau dan ddaear gan ein cyn-lowyr, gwarcheidwaid cof y glo, a fydd yn rhannu o'u profiad uniongyrchol o weithio yn y pwll.
Nodwch mai taith gerdded wledig yw hon, gyda thir anwastad, gan gynnwys rhai esgyniadau serth a disgyniadau. Dydy'r daith yma ddim yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn, neu bobl â phroblemau symudedd.