Skip to main content

Ymweld â Bryn Pica

Dyma wahodd ysgolion a grwpiau cymunedol i fynd ar daith ryngweithiol i fyd ailgylchu a dysgu sut caiff eitemau o'r cartref eu casglu o ochr y ffordd, eu dosbarthu'n fathau gwahanol o wastraff a'u troi'n eitemau newydd.

Cafodd Canolfan Ymwelwyr Alun Maddox ei hagor yn swyddogol ym Medi 2019, a'i bwriad yw dangos cymaint o gynnydd rydyn ni wedi'i wneud o ran ailgylchu a rheoli gwastraff.

Mae'r Ganolfan wedi'i henwi ar ôl sylfaenydd Amgen Cymru, sef Alun Maddox MBE. Roedd Alun yn gyfarwyddwr ar y cwmni am 25 o flynyddoedd ac roedd yn rhan o yrru esblygiad seilwaith ailgylchu gwastraff ym Mryn Pica. Roedd hefyd yn hyrwyddo'r Cyngor a'r Cwmni ar bob cyfle. Roedd wedi ymrwymo ers 2001 i hyrwyddo addysg am wastraff a datblygu cyfleuster addysg ym Mryn Pica.

Bydd modd i ymwelwyr fwynhau gwers ystafell ddosbarth i ddysgu rhai ffeithiau allweddol a gwybodaeth gefndirol am fyd ailgylchu, tirlenwi a rheoli gwastraff. Yna byddwch chi'n symud ymlaen at y ganolfan ryngweithiol, lle bydd modd i ddisgyblion a grwpiau cymunedol roi'r hyn y maen nhw wedi'i ddysgu ar waith.

Mae gan y Ganolfan fideos rhyngweithiol sy'n dangos sut mae gwastraff ailgylchu'n cael ei brosesu yn y Fwrdeistref Sirol. Mae modd i chi hefyd weld sut mae potel yn cael ei hailgylchu, cymryd cwis rhyngweithiol, darganfod beth sydd yn eich bin chi, neidio i mewn i'r môr rhyngweithiol, didoli gwastraff ailgylchu yn y Cyfleuster Adennill Deunyddiau bach a llawer yn rhagor.   

Mae teithiau'n para rhwng awr a hanner a dwy awr.

Cadw Lle Nawr

I wneud ymholiad/trefnu taith ysgol/taith grŵp cymunedol:

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: YmweldBrynPica@rctcbc.gov.uk