Skip to main content

Cymorth gyda Phrofedigaeth

Mae modd ichi gael cyngor/cymorth oddi wrth drefnwr angladdau, meddyg teulu, cyfreithiwr, swyddogion lles ac adrannau personél yn y gweithle, gweinidog, adrannau gwasanaethau cymdeithasol neu Ganolfannau Cyngor ar Bopeth, ymwelwyr iechyd neu nyrs ardal a fu’n rhoi triniaeth a gofal i’r sawl sydd wedi marw.  Os mewn ysbyty, gofynnwch i’r brif nyrs neu gaplan yr ysbyty.  Yn ogystal â hynny, gweler Cymorth Ymarferol Gwasanaethau Cofrestru.

Cymorth a Chysur 

Efallai’ch bod chi eisiau cymorth/cyngor ymarferol ac eisiau siarad â rhywun llawn cydymdeimlad ar wahân i’ch perthnasau agosaf, neu â phobl eraill sy wedi cael profiadau tebyg.  Mae nifer o sefydliadau yng Nghymru a Lloegr sy’n cynnig y math yma o gymorth.  Dyma rai o’r sefydliadau hynny.

The Child Bereavement Trust 

Mae’r elusen yma’n cynnig gwybodaeth ar-lein ar gyfer pobl ifainc sy wedi colli anwylyd.  www.childbereavement.org.uk

Bereavement Direct

Mae’r wefan yma’n cynnwys arweiniad ymarferol ar gyfer y sawl sydd mewn galar gan gynnwys trefnu angladd, cofrestru achos o farwolaeth, cymorth ariannol a gwasanaethau cymorth.Bereavement Direct

I ddymuno ar seren

Elusen sy'n darparu cymorth profedigaeth i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed ac iau yn sydyn ac yn drawmatig.www.2wishuponastar.org

Bereavement Direct (dros 50 oed)

Yn cynnig cyngor ymarferol ar baratoi ewyllys, yr hyn sydd i’w wneud pan fo rhywun yn marw a Chymorth o du’r Llywodraeth.

Marie Curie

Elusen genedlaethol gofal diwedd oes  sy'n darparu amrywiaeth o gefnogaeth i bobl sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i unrhyw salwch terfynol. Mae hyn yn cynnwys cwnsela, cefnogaeth mewn grwpiau a chefnogaeth bersonol dros y ffôn .
Ffôn: 0800 090 2309
Gwefan: https://www.mariecurie.org.uk/