Skip to main content

Ardal Gwella Busnes (BID) Love Treorchy

Beth ydy Ardoll Ardal Gwella Busnes?

Mae'r ardoll Ardal Gwella Busnes ar gyfer eiddo annomestig yng nghanol tref Treorci. Bydd yr hysbysiad ardoll Ardal Gwella Busnes cyntaf ar gyfer y cyfnod bilio o fis Ebrill 2020 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021.  Bydd hysbysiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi mis Mawrth ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill tan fis Mawrth, tan fis Mawrth 2024. Bydd yr hysbysiad olaf ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2024 tan ddiwedd mis Mawrth 2025. 

Sut galla i dalu fy mil Ardal Gwella Busnes?

Beth yw Love Treorchy LTD?

Mae Ardal Gwella Busnes cwmni Love Treorchy Ltd yn gwmni preifat, sy ddim yn rhan o'r awdurdod lleol, sy'n gyfrifol am ddarparu a rheoli gwasanaethau Ardal Gwella Busnes ar gyfer canol tref Treorci. Cafodd y cwmni ei sefydlu yn sgil canlyniad pleidlais Ardal Gwella Busnes ym mis Tachwedd 2019.

 phwy ydw i'n cysylltu am ymholiad ynghylch yr Ardal Gwella Busnes?

Os ydy'ch ymholiad am daliad neu'ch bil, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Os ydy'ch ymholiad am wasanaethau'r Ardal Gwella Busnes neu unrhyw beth arall (ar wahân i dalu), cysylltwch â chwmni Love Treorchy Ltd. drwy e-bost: info@lovetreorchy.co.uk 

Beth ydy rôl y Cyngor yn yr Ardal Gwella Busnes?

Yn ôl y gyfraith, y Cyngor ydy awdurdod codi tâl unrhyw Ardal Gwella Busnes, sy'n golygu mai'r Cyngor sy'n gyfrifol am gasglu ardollau. Dyw'r Cyngor ddim yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Ardal Gwella Busnes, oherwydd mai swyddogaeth cwmni Love Treorchy Ltd. yw hynny.

Pwy sy'n talu'r ardoll Ardal Gwella Busnes?

Y person neu sefydliad sy'n gyfrifol am dalu trethi annomestig yr eiddo sy'n gyfrifol am dalu ardoll Ardal Gwella Busnes. Os oes rhywun yn byw yn yr eiddo, yna'r deiliad sy'n gyfrifol. Pan fydd eiddo'n wag, y person neu sefydliad sydd â hawl defnyddio'r eiddo sy'n gyfrifol. Fel arfer, y rhan-ddeiliad neu'r perchennog yw hynny.

Ydy'r Cyngor a chyrff sector cyhoeddus eraill yn talu ardoll Ardal Gwella Busnes?

Bydd. Rhaid i'r Cyngor a chyrff sector cyhoeddus eraill dalu'r ardoll ar eiddo yn yr Ardal Gwella Busnes, ac mae'n debyg bod rhaid iddyn nhw dalu trethi annomestig.

Ga i ddewis peidio bod yn rhan o'r Ardal Gwella Busnes?

Na chewch. Yn gyfreithiol, mae talwyr trethi annomestig wedi'u rhwymo i'r Ardal Gwella Busnes, yn dilyn canlyniad llwyddiannus y bleidlais.

Beth yw swm yr ardollau Ardal Gwella Busnes sy'n cael eu casglu?

Mae modd casglu tua £27,000 bob blwyddyn o'r ardoll.

Beth sy'n digwydd i'r arian sy'n cael ei gasglu?

Caiff arian o'r ardollau dim ond ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau Ardal Gwella Busnes a chanran o gostau'r Cyngor am gasglu'r ardoll. Y Cyngor sy'n cadw'r arian cyn talu Corff yr Ardal Gwella Busnes (cwmni Love Treorchy Ltd) er mwyn talu am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y cwmni.

Beth rydw i'n cael am fy arian?

Love Treorchy Ltd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Ardal Gwella Busnes. Bydd cwmni Ardal Gwella Busnes Love Treorchy yn buddsoddi oddeutu £135,000 gan fusnesau lleol rhwng 2020 a 2025 ar raglen gynhwysfawr o welliannau. Yn ogystal â hyn, mae cyfraniadau busnesau yn ein galluogi ni i chwilio am ragor o gyllid.

Bydd rhaglen Love Treorchy yn cynnwys pedair elfen allweddol:

  1. Marchnata Treorci
  • Datblygu Gŵyl Bwydydd a Diodydd Treorci
  • Ehangu ar faint gorymdaith y Nadolig
  • Datblygu cynllun teyrngarwch
  1. Treorci fwy diogel
  • Atal dwyn o siopau yn y dref
  • Uno'r cymuned fusnes
  1. Treorci Weledol
  • Gwella'r arwyddion
  • Datblygu mannau cyhoeddus
  • Dod â gweithiau celf i'r strydoedd
  • Bod yn lais cryf dros fusnesau lleol
  1. Treorci Agored
  • Datblygu ac annog y defnydd o gyfleusterau cyhoeddus
  • Lobïo cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus

Cysylltwch â chwmni Love Treorchy Ltd os oes gennych unrhyw gwestiynau am wasanaethau'r Ardal Gwella Busnes.

Ydy'r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig gan y Cyngor yn barod?

Nac ydyn. Mae gwasanaethau Ardal Gwella Busnes yn rhai ychwanegol, sy ddim yn cael eu cynnig gan y Cyngor nac yn ehangu ar wasanaethau presennol.

Ydy'r ardoll Ardal Gwella Busnes yn cynyddu bob blwyddyn?

Bydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant costau'r ardoll, drwy gydol cyfnod yr Ardal Gwella Busnes.

Os yw'r eiddo'n wag, oes rhaid i mi dalu?

Oes. Mae talwyr trethi ar eiddo gwag hefyd yn gyfrifol am dalu ardoll Ardal Gwella Busnes.

A oes modd talu mewn rhandaliadau?

Nac oes. Rhaid talu ardoll Ardal Gwella Busnes mewn un taliad.

Os oes gennych wir drafferth ariannol ac rydych chi'n ei chael hi'n anodd talu, cysylltwch â'r Cyngor yn syth ar 01443 425002. Peidiwch ag anwybyddu hysbysiad talu, gan y bydd hyn dim ond yn gwaethygu'r sefyllfa.

Pleidleisiais yn erbyn yr Ardal Gwella Busnes neu doeddwn i ddim yn gymwys i bleidleisio ar y pryd, oes rhaid i mi dalu?

Oes. Mae canlyniad y bleidlais a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019 yn rhwymo holl dalwyr trethi annomestig yr ardal honno o 1 Ebrill 2020 hyd at 31 Mawrth 2025. Mae hwn yn cynnwys pobl neu sefydliadau a ddaeth yn dalwyr trethi ar ôl dyddiad y bleidlais.

Ydw i'n dod yn aelod o gwmni Love Treorchy Ltd yn awtomatig?

Nac ydych. Mae Erthyglau Cymdeithasu Love Treorchy yn gofyn i fusnesau sy'n talu ardoll mewn Ardal Gwella Busnes wneud cais i fod yn aelod o'r cwmni. Gall aelodau'r cwmni bleidleisio yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol, sy wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf, a dod yn rhan o Fwrdd y Cyfarwyddwyr neu ymuno â grŵp thema.

Pe hoffech chi ymuno â'r Bwrdd neu grwpiau thema, anfonwch e-bost i info@lovetreorchy.co.uk

Sut i ddod yn rhan o bethau?

Mae dwy ffordd o gymryd rhan:

  1. Ymuno â Bwrdd y Cyfarwyddwyr a dod yn rhan o waith arwain a goruchwylio cynnydd Ardal Gwella Busnes cwmni Love Treorchy.
  2. Ymaelodwch â grŵp thema sy'n cyfarfod i ganolbwyntio ar brosiectau penodol sy'n ymwneud â materion fel marchnata, diogelwch a gwella ymddangosiad a phrofiad trigolion ac ymwelwyr yn y dref. 

Sut galla i dalu fy mil Ardal Gwella Busnes?

Cewch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd
Sicrhewch fod cyfeirnod eich cyfrif Ardal Gwella Busnes wrth law. Bydd y cyfeirnod yn cynwys 8 digid ac yn dechrau gyda 7.

System bancio ar-lein neu drosglwyddo drwy BACS;

Talu Cyfrif Cyffredinol CBS Rhondda Cynon Taf

Cod Didoli        20-68-92

Rhif Cyfrif         20639427

Nodwch eich cyfeirnod cyfrif Ardal Gwella Busnes bob tro, sy'n dechrau â rhif 7, bob tro wrth dalu. 

Trwy'r Post

Anfonwch sieciau, yn daladwy i CBSRhCT, i Swyddfeydd y Cyngor, Bronwydd, Y Porth, Cwm Rhondda, CF39 9DL.  Nodwch eich rhif cyfeirnod 8 rhif, sy'n dechrau â rhif 7, ar y cefn.

Wyneb yn Wyneb

Defnyddiwch flwch talu electronig yn un o Ganolfannau iBobUn y Cyngor - manylion ar gael ar ochr Gymraeg y wefan www.rctcbc.gov.uk/contactus - cadwch eich rhif cyfeirnod 8 rhif, sy'n dechrau â rhif 7, wrth law.

Ffôn

Ffoniwch ganolfan cyswllt i gwsmeriaid ar 01443 425002, i dalu â cherdyn debyd neu gredyd.  Mae tâl ychwanegol ar gyfer cardiau credyd.

Cysylltwch â ni

Ymholiadau ynghylch eich bil, ewch i'r wefan www.rctcbc.gov.uk - busnesau – cyfraddau/trethi busnesau - Ardal Gwella Busnes

E-bost refeniw@rctcbc.gov.uk

Ffôn 01443 425002

Llythyron i Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Bronwydd, Y Porth, Cwm Rhondda CF39 9DL

Ymholiadau ynghylch gwasanaethau Ardal Gwella Busnes

e-bost       info@lovetreorchy.co.uk