Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys sydd i'w weld ar barth www.rctcbc.gov.uk . Dyw e ddim yn berthnasol i gynnwys ar unrhyw un o'n his-barthau (er enghraifft, my.rctcbc.gov.uk).
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n gweithredu'r wefan yma Rydym ni eisiai i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan yma. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais/lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Rydym ni'n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch ac rydym ni'n gweithio i unioni hyn:
- Dyw fformatau PDF na dogfennau yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrin
- Dyw'r cynnwys a'r modd llywio gan gyflenwyr trydydd parti ddim yn gwbl hygyrch.
- Fydd y testun ddim yn ail-lenwi mewn un golofn pan fyddwch chi'n newid maint ffenestr y porwr
- Does dim modd addasu uchder llinellau na bylchau testun
Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni trwy:
- Ffurflen Gais am Gynnwys
- E-bost
- Ffonio
- Ffôn destun
Bydd angen i ni wybod:
- cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- Eich enw
- Cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post?
- y fformat sydd ei angen arnoch chi, er enghraifft, CD sain, braille, Iaith Arwyddion Prydain (‘BSL’) neu brint mawr, PDF hygyrch
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n meddwl nad ydyn ni'n cwrdd â'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy:
- Ffurflen Hygyrchedd
- E-bost
- Ffonio
- Ffôn destun
Bydd angen i ni wybod:
- cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- Eich enw
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion am y broblem
Gweithdrefn Gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n fodlon ar sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar gyfer Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu galw heibio wyneb-yn-wyneb
Rydym ni'n darparu gwasanaeth testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws Cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Safon AA.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Mae'r cynnwys nad yw'n hygyrch wedi'i nodi isod gyda manylion:
- Lle mae'n methu'r meini prawf llwyddiant
Mae gan rai tudalennau broblemau o ran cyferbyniad. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.6 (Cyferbyniad).
Does gan rai tablau yn rhan o'r cynnwys ddim penawdau uwchlaw'r rhesi pan fo angen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1A 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynasau).
Mae gan rai tudalennau broblemau o ran pennawd tudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1. A 2.4.10 (Penawdau Adrannau).
Mae gan rai tudalennau broblemau o ran tagio. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.1 (Dosrannu).
Mae gan rai tudalennau broblemau o ran dolenni cyswllt â thestun. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.1 (Diben dolen).
Mae gan rai tudalennau broblemau o ran cynnwys heb destun. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (Cynnwys heb destun).
Mae gan rai fideos broblemau o ran testun pennawd a disgrifiad sain. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 21. 1.2 maen prawf llwyddiant (Cyfryngau yn seiliedig ar amser).
Baich anghymesur
Ddim yn berthnasol.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Fformat PDF a dogfennau eraill
Mae rhai o'n fformatiau PDF yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Erbyn mis Medi 2020, rydym ni'n bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Dyw'r rheoliadau hygyrchedd ddim yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ffiliau PDF newydd a gyhoeddwn yn cwrdd â safonau hygyrchedd.
Fideo byw
Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu capsiynau/testunau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'u heithrio rhag cwrdd â'r rheoliadau hygyrchedd.
Beth rydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym ni'n bwriadu nodi a thrwsio problemau yn unol â'r amserlenni ar gyfer pob maes sydd wedi'i nodi uchod.
Byddwn hefyd yn cysylltu â'n cyflenwyr lle na allwn ni ddatrys unrhyw broblemau ein hunain.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 25/9/2020. Adolygiad diwethaf o'r datganiad 25/9/2020.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.