Skip to main content

Telerau ar gyfer defnydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf County yn ymdrechu i gynnal gwefan gywir a dibynadwy.

Er hyn, dydy’r Cyngor ddim yn gwneud unrhyw sylwadau am gywirdeb, dibynadwyedd, cyflawnder nac addasrwydd yr wybodaeth, nwyddau, gwasanaethau, a graffigau perthynol sydd wedi’u cynnwys yn y wefan yma at unrhyw ddiben. Fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, ei weithwyr, ei gyflenwyr, nac ychwaith unrhyw bartïon eraill sy’n ymwneud â pharatoi a chyflwyno’r wefan hon yn atebol am unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, cysylltiedig, arbennig neu ganlyniadol, colled neu anghyfleustra a achoswyd drwy ddibynnu ar gynnwys y wefan yma neu sy’n tarddu o ddefnyddio’r wefan hon.

Telerau ac Amodau Defnyddio

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynnig hawl i gyrchu a defnyddio’r wefan hon ar sail y telerau ac amodau canlynol:

  1. O ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n derbyn y telerau ac amodau yma sy’n weithredol o’r dyddiad cyntaf ichi ddefnyddio’r wefan.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cadw’r hawl i newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg drwy bostio unrhyw newidiadau ar-lein.  Drwy ddefnyddio'r wefan hon ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu postio, byddwch chi'n derbyn y Telerau ac Amodau diwygiedig.
  2. Dim ond ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun y cewch chi ddefnyddio'r wefan hon. Chwech chi ddim copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, postio, darlledu na throsglwyddo deunyddiau mewn unrhyw ffordd ac eithrio at eich defnydd personol ac anfasnachol cartref eich hun. Bydd angen cael caniatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw i ddefnyddio'r wefan mewn unrhyw ffordd arall.
  3. Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw'n amharu nac yn cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad unrhyw drydydd parti o'r safle, nac yn achosi niwsans, anghyfleustra, neu bryder diangen i unrhyw drydydd parti.  Mae’r fath gyfyngu neu amharu yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, difenwol, neu ddifrïol, neu a allai aflonyddu ar unrhyw berson, neu a allai achosi gofid, anghyfleustra, niwsans, neu fygythiad i unrhyw berson, neu drosglwyddo cynnwys anllad, bygythiol neu sarhaus, neu darfu ar lif arferol y deialog ar y wefan hon.
  4. Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltau â gwefannau eraill, sydd ddim o reidrwydd yn cael eu gweithredu gan y Cyngor. Dyw’r Cyngor ddim yn gyfrifol, nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ychwanegu at y fath wefannau.
  5. Mae’r Cyngor yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a deunydd ar y wefan hon yn union ac yn gywir, ond dyw e ddim yn derbyn unrhyw atebolrwydd am wallau neu ddiffygion. Dyw'r Cyngor ddim yn gwarantu chwaith y bydd defnydd y wefan yma yn ddi-dor.  Mae'r Cyngor yn darparu'r deunydd sy'n cael ei gyhoeddi ar ei wefan ar y sail ei fod yn ymwadu â phob gwarant o ran deunydd o’r fath, boed yn bendant neu’n oblygedig.  Nid yw’r Cyngor, ei weithwyr, ei gyflenwyr, na darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled busnes, derbyniadau, neu elwon, neu iawndal arbennig, boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol, cysylltiedig neu ganlyniadol, yn tarddu o gyhoeddi’r deunydd ar y wefan hon neu o ddefnydd o’r wefan hon.
  6. Rydych chi’n cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint a hawliau cronfa ddata, yng ngwefan y Cyngor a’i chynnwys yn eiddo i’r Cyngor neu wedi’u trwyddedu i’r Cyngor a ddefnyddir fel arall gan y Cyngor fel y caniateir gan y gyfraith gymwysadwy.
  7. Mae gan y Cyngor yr hawl i olygu unrhyw ddeunydd sy’n cael ei gyflwyno neu’i ychwanegu at y wefan hon yn ogystal â gwrthod ei bostio, neu'i symud.  Dyw’r Cyngor ddim yn gyfrifol, nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ychwanegu at y wefan heblaw gan y Cyngor.  Eiddo’r trydydd partïon o dan sylw yw unrhyw farnau, cyngor, datganiadau, neu wybodaeth arall sy'n ymddangos ar y wefan yma.  Dyw'r Cyngor ddim yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am gywirdeb neu atebolrwydd unrhyw ddeunydd trydydd parti o’r fath.
  8. Cyfreithiau Cymru a Lloegr sy’n llywodraethu’r telerau ac amodau yma.  Bydd unrhyw anghydfod sy’n tarddu o’r telerau ac amodau yma yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.
  9. Os dewch chi o hyd i rywbeth ar y wefan hon sy’n peri pryder i chi, rhowch wybod inni.
  10. Os ydych chi’n anfodlon ar unrhyw ran o’r wefan yma, neu unrhyw un o’r telerau ac amodau yma, rhowch y gorau i ddefnyddio’r wefan ar unwaith.
  11. Os dyfernir bod unrhyw un o’r telerau yma yn anghyfreithlon, yn annilys, neu’n anorfodadwy fel arall, yna i’r graddau ei fod yn anghyfreithlon, yn annilys, neu’n anorfodadwy fel arall fe gaiff ei dynnu a’i ddileu o’r cymal hwn a bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn goroesi, yn dal mewn grym ac effaith lawn, a pharhau i fod yn rhwymol ac yn orfodadwy.

Ymwadiad E-bost

Mae dolen i'r ymwadiad wedi'i chynnwys yn awtomatig ym mhob neges e-bost sy'n cael ei hanfon yn allanol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

  1. Mae'r neges e-bost hon yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer y sawl y cafodd ei chyfeirio yn unig. Gall y neges fod yn gyfrinachol, yn amodol ar ragorfraint gyfreithiol neu broffesiynol, neu fel arall wedi'i diogelu rhag cael ei rhyddhau.  Mae'r neges ar gyfer y person / pobl enwedig yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth personol, sensatif neu gyfrinachol. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi’r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopïo neu’i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych chi wedi derbyn y neges ar gam, rhowch wybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith.  Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae'r neges e-bost hon ac unrhyw atodiadau yn eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf.  Dydy unrhyw farn sy’n cael ei mynegi yn yr e-bost ddim o reidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
  2. Fydd cynnwys yr e-bost ddim yn ffurfio unrhyw berthynas gytundebol â'r Cyngor, ei asiantaethau neu'i weithwyr oni bai bod hynny wedi’i nodi'n glir neu’i fod wedi’i nodi yn ysgrifenedig gan swyddog ag awdurdod.
  3. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau dydy’r negeseuon e-bost sy’n cael eu hanfon allan ddim yn cynnwys meddalwedd faleisus.  Does dim modd i bob e-bost fod yn hollol ddiogel a'ch cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriadau gwrth firws neu unrhyw wiriadau eraill sy'n briodol yn eich barn chi.
  4. O anfon negeseuon e-bost at Gyngor Rhondda Cynon Taf, rydych chi'n cytuno bod modd i’r Cyngor eu monitro a’u darllen i ddibenion diogelwch ac i fodloni unrhyw ddeddfwriaeth.

Mapio'r Gwe

Mae'r system mapio'r gwe yn defnyddio eiconau o'r Casgiad Eiconau Map. Cafodd y casgliad ei greu dan drwydded 'Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported'.