Ein nod ni yw ei gwneud hi mor hwylus ag y bo modd i chi gyrchu'r wefan. I wneud hynny, byddwn ni'n gosod ffeiliau bach sy'n cynnwys data ar eich dyfais (cyfrifiadur, ffôn glyfar, cyfrifiadur 'llechen', ac ati). Cwcis rydyn ni'n galw'r ffeiliau hyn. A siarad yn gyffredinol, bydd llawer o wefannau eraill yn eu defnyddio nhw hefyd.
Sut rydyn ni'n defnyddio cwcis
Mae'r wefan yma'n defnyddio cwcis ar gyfer sawl peth – mae rhestr o bob un isod ynghyd â rhesymau dros eu defnyddio.
List of Cookies
Cwci | Enw | Pwrpas |
Cwci cofio dewis |
cb_enabled |
Mae'r cwci yma'n cael ei ddefnyddio i gofio dewis y defnyddiwr o ran cwcis ar www.rctcbc.gov.uk Lle mae defnyddwyr wedi nodi dewis yn flaenorol, bydd dewis y defnyddiwr hwnnw'n cael ei storio yn y cwci yma. |
Google Analytics 4 |
_ga _ga_M929RCXN30
_gat _gid
|
Mae'r cwcis yma'n cael eu defnyddio i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i baratoi adroddiadau sy'n ein helpu ni i wella'r wefan. Bydd y cwcis yn casglu'r holl wybodaeth mewn ffurflen ddienw, sy'n cynnwys nifer y bobl sy'n ymweld â'r wefan, o ble mae'r ymwelwyr wedi dod, a'r tudalennau maen nhw'n ymweld â nhw. Darllenwch drosolwg Google ynglŷn â phreifatrwydd a diogelu data |
Website Technology |
ASP.NET_SessionId |
Mae'r dechnoleg sy'n sail i'n gwefan, ASP.NET, yn sefydlu sesiwn unigryw sy'n para hyd eich ymweliad. Dydy'r cwci ddim yn cynnwys gwybodaeth bersonol ac mae'n cael ei ddileu pan fyddwch chi'n cau'ch porwr. |
Forms Technology |
__RequestVerificationToken |
Mae'r cwci yma'n cael ei osod gan y dechnoleg sy'n sail i'n ffurflenni ar-lein ac mae'n cael ei ddefnyddio i atal CSRF. |
Lleoliad |
RCT-VisitorAddress |
Mae'r cwci yma'n cael ei greu pan fyddwch chi'n chwilio am wybodaeth (diwrnod casglu biniau, llyfrgell agosaf, ac ati) ac yn dewis yr opsiwn 'cofio fy nghyfeiriad'. Cynnwys y cwci yw Cyfeirnod Eiddo Unigryw y cyfeiriad o ddewis. Mae cynnwys y cwci yn cael ei ddileu trwy ddewis yr opsiwn 'newid cyfeiriad' pan fyddwch chi'n chwilio am wybodaeth. |
Ffenestri naid |
leisurepopup, lidopopup, rhppopup6, tourismpopup1 |
Mae'r cwcis yma'n cael eu defnyddio i gofio bod arolwg un cwestiwn wedi cael ei ddangos i chi ac i beidio â dangos yr arolwg eto. Ar hyn o bryd rydyn ni'n defnyddio pedwar arolwg: Hamdden, Lido, Twristiaeth a Thaith Pyllau Glo Cymru. |
Integreiddio Cyfryngau Cymdeithasol (Facebook) |
fr
|
Mae'r cwcis yma'n cael eu gosod gan Facebook pan fyddwn ni'n ymwreiddio ein cyfrifon Facebook yn ein gwefan. |
Integreiddio Cyfryngau Cymdeithasol (Twitter) |
lang, _ga, eu_cn, gdpr_lo, guest_id, personalization_id,
tfw_exp
|
Mae'r cwcis yma'n cael eu gosod gan Twitter pan fyddwn ni'n ymwreiddio ein cyfrifon Twitter yn ein gwefan. |
Cwcis YouTube |
GPS
SIDCC
VISITOR_INFO1_LIVE
YSG
remote_sid
|
Rydyn ni'n defnyddio YouTube ar gyfer ein fideos ac mae YouTube yn cynnwys y cwcis yma ar unrhyw dudalen ar ein gwefan sy'n cynnwys fideo wedi'i fewnosod. |
Mapio |
astun, astun:currentlocation, atLocation, atMyCouncil
|
Yn storio gwybodaeth sy'n gyrru'r sgriniau mapio fel tab dethol (Fy Nghartref, Agosaf ata i, Fy Mapiau) a'r cyfeiriad o ddewis. |
Cynllunio |
JSessionID,
CastGC
|
Mae JSessionID yn cael ei ddefnyddio i gofio mewnbwn a dewisiadau defnyddwyr i wella profiad y cwsmer. Mae cwci CastGC yn cael ei ddefnyddio yn ystod y broses mewngofnodi. |
Cysylltu ac e-hawlio |
JSessionID
|
Mae JSessionID yn cael ei ddefnyddio i gofio mewnbwn a dewisiadau defnyddwyr i wella profiad y cwsmer. |
Pyrth |
(SITENAME)SESSIONID, authsession
|
Mae'r cwcis yma'n cael eu defnyddio i reoli'r broses fewngofnodi a chynnydd wrth lenwi ffurflenni yn y porth cymwys. Er enghraifft, mae CITIZENPORTAL_ENGLISHSESSIONID yn nodi cynnydd ar ffurflenni ar ein Porth Dinasyddion. Daw'r ddau gwci i ben pan ddaw'r sesiwn bori i ben. |
Dilysu |
MSISAuth, MSISAuthenticated, MSISLoopDetectionCookie, MSISSignOut |
Defnyddir y cwcis yma gan ein system ddilysu i gofnodi bod defnyddiwr wedi mewngofnodi fel na fydd yn cael ei annog yn barhaus i fewngofnodi. Daw'r cwcis i ben pan ddaw'r sesiwn bori i ben. |
Adrannau sydd eisiau ichi gofrestru/mewngofnodi
Os bydd adran o'n gwefan yn gofyn i chi gofrestru/mewngofnodi A bod cwci yn perthyn i'r dudalen, darllenwch y telerau ac amodau sydd i'w gweld yn glir ar y dudalen cofrestru. Trwy gofrestru byddwch chi'n rhoi caniatâd inni osod cwcis ar eich dyfais ar gyfer defnyddio'r cyfleuster dan sylw.
Sut rydw i'n newid fy ngosodiadau cwcis?
Dyma restr o ddolenni cyswllt i wefannau gwneuthurwyr porwyr poblogaidd er mwyn i chi ddod o hyd i wybodaeth ynghylch rheoli cwcis:
Ar gyfer porwyr eraill, ewch i wefan datblygwr y porwr. I ddewis peidio â chael eich dilyn gan Google Universal Analytics, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.