Ailbrisiad
Beth yw ailbrisiad?
Ailbrisiad yw’r adolygiad o werthoedd ardrethol holl eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr, a gynhelir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae hyn yn digwydd bob 3 blynedd.
Ardrethi busnes
Sut ydych yn prisio eiddo?
Mae’r VOA yn prisio eiddo yn ôl ei werth ardrethol. At ddibenion ardrethi busnes, dyma swm y rhent y gallai’r eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol. Cyfeirir ato fel y Dyddiad Prisio Rhagflaenol (AVD).
Sut gaiff fy ngwerth ardrethol ei gyfrifo?
Mae’r gwerth ardrethol yn seiliedig ar faint o rent y gallai’r eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol (sef 1 Ebrill 2021 ar gyfer ailbrisiad 2023).
Er mwyn cyfrifo’r gwerth ardrethol, mae’r VOA yn dadansoddi’r farchnad eiddo sydd wedi’u gosod i sicrhau bod gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu’r farchnad eiddo’n gywir.
Beth yw’r dyddiad prisio ar gyfer ailbrisiad 2023?
Yr AVD ar gyfer ailbrisiad 2023 yw 1 Ebrill 2021.
Pwy sy’n penderfynu ar ddyddiad y prisiad?
Y Llywodraeth sy’n penderfynu ar ddyddiad y prisiad. Dewisodd y Llywodraeth 1 Ebrill 2021 fel y byddai prisiadau yn adlewyrchu effaith COVID-19 ar y farchnad eiddo.
Sut caiff fy mil ardrethi busnes ei gyfrifo?
Rydym yn cyfrifo biliau ardrethi busnes gan ddefnyddio gwerth ardrethol. Mae gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar faint o rent y gallai eiddo cwsmer fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol (sef 1 Ebrill 2021 ar gyfer ailbrisiad 2023).
Pryd byddaf yn cael fy mil ardrethi busnes?
Bellach mae cwsmeriaid yn gallu gweld y gwerth ardrethol i ddod ar gyfer eu heiddo a chael amcangyfrif o’u bil ardrethi busnes, a beth y gallai hwnnw fod.
Gallant wneud hyn drwy Wasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK.
 phwy ydw i’n cysylltu os yw fy mil gwerth ardrethol yn rhy uchel?
Cyn 1 Ebrill 2023, dylai cwsmeriaid Cymraeg ddefnyddio’r Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i’r VOA os ydynt o’r farn bod eu gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i gwsmeriaid gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i’r VOA os ydynt o’r farn bod eu gwerth ardrethol yn rhy uchel.
Mae’n rhaid i chi barhau i dalu’ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer. Os ydych yn gordalu, gallwch ofyn am ad-daliad gan eich cyngor lleol.
 phwy ydw i’n cysylltu os yw fy eiddo wedi newid?
Cyn 1 Ebrill 2023, dylai cwsmeriaid Cymraeg ddefnyddio’r Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i’r VOA am newidiadau i fanylion eu heiddo, megis maint arwynebedd llawr a pharcio.
Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i gwsmeriaid gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i’r VOA am newidiadau i fanylion eiddo.
Mae’n rhaid i chi barhau i dalu’ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer. Os ydych yn gordalu, gallwch ofyn am ad-daliad gan eich cyngor lleol.
Mae’n bosibl y bydd y VOA yn derbyn eu newidiadau ac yn diweddaru’r prisiad presennol a’r prisiadau yn y dyfodol.
Pam oes gan eiddo tebyg werthoedd ardrethol gwahanol?
Wrth gyfrifo gwerth ardrethol, mae’r VOA yn ystyried faint y gallai eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol. Gall gwerth ardrethol eiddo amrywio am sawl rheswm fel lleoliad a maint.
Pa ryddhadau rhag ardrethi busnes sydd ar gael?
Mae sawl math o ryddhad rhag ardrethi busnes i gwsmeriaid. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar GOV.UK. Efallai y bydd angen iddynt gysylltu â’u cyngor lleol i wirio’u cymhwystra ar gyfer rhyddhad rhag ardrethi busnes.
Caiff rhyddhadau rhag ardrethi busnes eu trin yn wahanol os yw eu heiddo yng Nghymru.
Beth os ydw i am ddefnyddio asiant?
Os yw cwsmer am awdurdodi asiant i weithredu ar ei ran, gall un gael ei benodi drwy ddefnyddio ffurflen awdurdod i weithredu ar GOV.UK.