Skip to main content

Cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer Busnesau Newydd a Busnesau sy'n Tyfu

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn cefnogi twf cynaliadwy ymhlith busnesau bach a chanolig drwy gynnig gwybodaeth, cyngor a nifer o wasanaethau cymorth i fusnesau gan gynnwys cynllunio busnes, marchnata, cyrsiau hyfforddi a chyngor â chyllid.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.business.wales.gov.uk/cy neu ffoniwch 03000 6 03000 am ragor o wybodaeth.

Banc Datblygu Cymru

Cyllid hyblyg ar gyfer busnesau yng Nghymru o £1,000 i £5 miliwn. Benthyciadau ac ecwiti. Wedi'u diogelu a heb eu diogelu. Trwy fuddsoddi mewn busnesau newydd, cwmnïau yn eu cyfnod cynnar a busnesau sydd wedi ennill eu plwyf, mae Cyllid Cymru yn cynnig cyllid byr dymor ar gyfer prosiectau, cyllid twf hir dymor, buddsoddiad dilynol a chyfalaf gweithio ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.developmentbank.wales/cy Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0800 5874140

Cyflymu Cymru i Fusnesau

Gwasanaeth cymorth i fusnesau wedi'i gyllido sy'n helpu busnesau bach a maint canolig wneud y gorau o'r holl dechnoleg ddigidol sydd ar gael iddyn nhw. Cymerwch fantais o'r cyfle i fynychu dosbarthiadau meistr, derbyn cymorth 1:1 gan ymgynghorydd busnes digidol ac i lawrlwytho meddalwedd am ddim.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.businesswales.gov.wales/cy/superfastbusinesswales/ neu ffoniwch 03000 6 03000 am ragor o wybodaeth.

Ymddiriedolaeth y Tywysog

Sefydliad sy'n rhoi cymorth i bobl ifainc rhwng 18 a 24 oed er mwyn datblygu'u syniadau busnes a'u cefnogi trwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a benthyciadau llog isel.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
https://www.princes-trust.org.uk neu ffoniwch 0800 842 842 am ragor o wybodaeth.

Chwarae Teg – Rhaglen Gwneud eich Hun

Mae'r Rhaglen i Gyflogwyr yn cynnig cymorth busnes unigryw wedi'i gyllido, sy'n cynnwys ymgynghoriad 1:1, arolwg diwylliant busnes, dadansoddiad data ag argymhellion, cynllun gweithredu cydraddoldeb ac amrywiaeth unigryw a hyd at 35 awr o gymorth wedi'i gyllido dros gyfnod o 12 mis.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.makeyourself.wales/makeyourself.aspx neu ffoniwch 0300 365 0445 am ragor o wybodaeth.

Gyrfa Cymru

(Cynllun Prentisiaeth a Twf Swyddi Cymru)
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaethau wedi'u teilwra i gyflogwyr, gan gynnwys cymorth recriwtio, cyflogaeth a deddfwriaeth a chymorth colli swydd.

Mae'r Cynllun Prentisiaeth yn gweithio gyda busnesau er mwyn datblygu gweithwyr drwy gynnig dysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant er mwyn datblygu sgiliau a phrofiad.

Mae Twf Swyddi Cymru yn cefnogi busnesau drwy ddarparu cyngor a chyllid er mwyn cyflogi pobl ifainc rhwng 16 a 24 oed am 6 mis, gyda golwg ar roi swydd barhaol iddyn nhw.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
http://www.careerswales.com/cy/cyflogwyr/ neu ffoniwch 0800 028 4844 am ragor o wybodaeth.

Ymddiriedolaeth Carbon Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Carbon Cymru'n cefnogi sefydliadau ar hyd a lled Cymru er mwyn mynd i'r afael â chostau ynni, lleihau eu hôl troed carbon a symud i gyfeiriad economi cynaliadwy a charbon isel.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
https://www.carbontrust.com am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0300 123 1100.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CaThEM)

Mae CaThEM yn cynnig gwybodaeth fanwl i fusnesau. Mae Fforwm Busnesau Bach Ar-lein yn ffordd gyflym a hawdd o gael atebion i gwestiynau am dreth, yn ogystal â helpu i ddechrau busnes a chymorth ar sut i dyfu busnes.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.gov.uk/

Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)

Mae Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) yn darparu gwybodaeth ddiduedd am ddim a chyngor i gyflogwyr a gweithwyr ar bob agwedd o gysylltiadau yn y gweithle a chyfraith cyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.acas.org.uk am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0300 123 1100.

Prifysgol De Cymru

Mae canolfan Exchange Prifysgol De Cymru yn adeilad sydd wedi'i godi'n bwrpasol er mwyn hwyluso rhwydweithio, sesiynau diagnostig, seminarau twf a gweithgareddau eraill sy'n cefnogi busnesau newydd a BBaCh cyfredol. Mae'r gwasanaethau yma'n cael eu darparu gan academyddion a myfyrwyr. Bwriad y Clinig Busnes yw cynnig atebion sydd wedi'u datblygu mewn partneriaeth â myfyrwyr i ymholiadau sy'n ymwneud â busnes.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
http://www.southwales.ac.uk/business/ a http://www.uswexchange.co.uk/?lang=cy neu ffoniwch 01443 482482 am ragor o wybodaeth.

Coleg y Cymoedd

Mae modd i sefydliad Coleg y Cymoedd cynnig hyfforddiant hyblyg, cyngor, datblygiad, a datrysiadau unigryw ar gyfer busnes a'r diwydiant. Mae ganddo ganolfannau arbenigol, hyfforddiant masnachol, cyrsiau proffesiynol a phrentisiaethau. Uwchsgilio @ Waith Mae'r cynllun yma wedi'i ddylunio er mwyn gwella sgiliau a chynyddu cynhyrchiant yn y gweithle drwy ddarparu cyfleoedd cymorthdaledig ar gyfer cymwysterau achrededig yn y gweithle.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
http://www.cymoedd.ac.uk neu ffoniwch 01443 663128 am ragor o wybodaeth.

Busnes Cymdeithasol Cymru

Mae'r cynllun yma'n darparu cefnogaeth ddwys 1:1 i fusnesau cymdeithasol ar hyd a lled Cymru sy'n gobeithio datblygu neu sefydlu mwy o swyddi.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.businesswales.gov.wales/socialbusinesswales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000 am ragor o wybodaeth.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WVCA)

Cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth, gan gynnwys cymorth ar gyflogi a rheoli pobl, ar gyfer elusennau a sefydliadau gwirfoddol. Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, sy'n rhan o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, hefyd yn gweinyddu'r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol, Cronfa Buddsoddi Cymunedol a Chronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
http://www.wcva.org.uk neu ffoniwch 0800 288 8329 am ragor o wybodaeth.

Canolfan Cydweithredol Cymru

Dyma gorff cenedlaethol i fusnesau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau ym mherchnogaeth y gweithwyr.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
http://cymru.coop/ neu ffoniwch 0300 111 5050 am ragor o wybodaeth.

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo

Dyma gwmni elusennol a menter gymdeithasol sy'n datblygu rhaglenni sy'n helpu pobl i ennill sgiliau a chymwysterau newydd, dod o hyd i waith, a dechrau neu dyfu busnesau newydd.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweinyddu cronfa fenthyciadau i ficrofusnesau yn y trydydd sector ar gyfer y rheiny sydd eisiau datblygu gweithgaredd mentrus a fydd yn cynhyrchu incwm a chreu swyddi.

Am ragor o wybodaeth ewch i:
http://www.coalfields-regen.org.uk neu ffoniwch 01443 404455 am ragor o wybodaeth.

Mae'r holl wybodaeth a nodir yn gywir wrth argraffu ac nid yw Cyngor RhCT yn gyfrifol am gywirdeb a dibynadwyedd unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y wybodaeth a ddarperir gan drydydd parti.