Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau dros £20miliwn o Gronfa Codi'r Gwastad newydd Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn tri prosiect mawr yn yr ardal.
Yn dilyn cyhoeddiad gan y Canghellor yng Nghyllideb yr Hydref 2021, mae £4.8biliwn o Gronfa Codi'r Gwastad yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith i wella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.