Mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i ni am newid mewn tenantiaeth cyn gynted ag sy'n bosibl fel bod gyda ni'r manylion cywir. 
 
Bydd rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi'r bil Treth y Cyngor cywir i chi a rhoi'r gostyngiadau a'r eithriadau perthnasol i chi. 
Mae modd i chi roi gwybod i ni am y newidiadau yma ar-lein.
 
Fel arfer, fyddwn ni ddim yn cofrestru tenantiaid am gyfnod ôl-weithredol (retrospective period). Er mwyn i ni ystyried cais i gofrestru tenantiaid am gyfnod ôl-weithredol, fydd angen i ni weld tystiolaeth gefnogol llawn megis;
- cytundebau tenantiaeth,
 
- prawf bod rhent wedi'i dalu,
 
- biliau cyfleustodau,
 
- manylion cyswllt a chyfeiriad newydd y tenant,
 
- manylion cyflogaeth,
 
Mae'n bosib y byddwn ni'n penderfynu nad oes digon o wybodaeth ar gael er mwyn ystyried cofrestru'r tenant ar gyfer Treth y Cyngor ac mae'n bosib y byddwn ni'n codi tâl arnoch chi ar gyfer y cyfnod dan sylw. Dyma pam mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i ni'n syth os yw tenantiaid yn gadael neu'n symud i mewn.