Ceir cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad cynyddol o'r rôl hanfodol mae'r Sector Rhentu Preifat yn chwarae wrth ddiwallu anghenion tai ein cymunedau. Mae gallu'r sector i addasu, newid a datblygu modelau llety a rheolaeth amrywiol, hyblyg ac arloesol wedi ei weld yn tyfu. Erbyn hyn dyma'r ail fath mwyaf cyffredin o ddaliadaeth yn y rhan fwyaf o ardaloedd.
Bydd cyfarfod nesaf y Fforwm Landlordiaid yn dechrau am 6pm ac yn gorffen am 8pm ddydd Mawrth 30 Mehefin yng Nghlwb Rygbi Pontypridd, CF37 1HA.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ceisio datblygu gwasanaethau a mentrau i gefnogi'r Sector Rhentu Preifat a galluogi darparu opsiynau tai o ansawdd da, ac wedi eu rheoli'n dda. Mae ymgynghori â landlordiaid a datblygu gwasanaethau a mentrau yn unol ag anghenion a nodwyd yn un o amcanion sylfaenol y cyngor ac mae'n darparu cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â'r sector rhentu preifat wrth gwrdd ag anghenion tai.
Mae'r gallu i ymgysylltu â chynrychiolwyr ar bob lefel o'r Sector Rhentu Preifat yn hanfodol os yw'r gwasanaethau a mentrau yma'n mynd i fod yn effeithiol a chyflawni'r amcanion y cawson nhw eu cynllunio i'w cyflawni.
E-bost: FforwmLandlordiaidRhCT@rctcbc.gov.uk
- Dyddiad Cyhoeddi
- Last Year
- Dyddiad Cyhoeddi
- Last Year
- Dyddiad Cyhoeddi
- Last Year
Llythyrau newyddionAtom Feed
- Dyddiad Cyhoeddi
- Last Year
- Dyddiad Cyhoeddi
- Last Year
- Dyddiad Cyhoeddi
- Last Year
- Dyddiad Cyhoeddi
- Last Year
- Dyddiad Cyhoeddi
- Last Year
- Dyddiad Cyhoeddi
- Last Year