Skip to main content

Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol

Mae'r Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn cynnig gwasanaeth rheoli eiddo llawn i landlordiaid drwy gydol y brydles, gan gynnwys gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, ac incwm rhent gwarantedig hyd yn oed pan fo’r eiddo heb denant.

Mae'r cynllun yn cynnig cyfle i Awdurdod Lleol weithio gyda landlordiaid preifat er mwyn cynnig lletyau diogel hirdymor i denantiaid gyda chymorth tai parhaus wrth gynnal safon uchel yr eiddo heb unrhyw gostau ychwanegol i'r landlord.

Nod y cynllun yw gwella mynediad at dai hirdymor, fforddiadwy o ansawdd da, gan ddarparu cymorth i denantiaeth yn y sector rhentu preifat. Mae tenantiaid yn cael eu paru ag eiddo o restr aros Gwasanaeth Ceisio Cartref y Cyngor. Yn rhan o Gynllun yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol, bydd landlordiaid yn derbyn grant gwerth £5,000 er mwyn sicrhau bod yr eiddo yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru a hyd at £9,999 ar gyfer eiddo gwag.

Sut mae landlordiaid yn cael mynediad at y gwasanaeth yma?

Os oes gyda chi ddiddordeb yn y cynllun, e-bostiwch: GosodTaiCymdeithasol@rctcbc.gov.uk. Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen mynegu diddordeb cyn i swyddog tai gysylltu â chi er mwyn trafod yr eiddo a darparu rhagor o fanylion am y cynllun. 

Mae modd dod o hyd i ragor o fanylion yma: www.asiantaethgosodtaicymdeithasolrhct.co.uk