Skip to main content

Newid mewn Tenantiaeth

Mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i ni am newid mewn tenantiaeth cyn gynted ag sy'n bosibl fel bod gyda ni'r manylion cywir. 

Bydd rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi'r bil Treth y Cyngor cywir i chi a rhoi'r gostyngiadau a'r eithriadau perthnasol i chi. 

Mae modd i chi roi gwybod i ni am y newidiadau yma ar-lein.

Fel arfer, fyddwn ni ddim yn cofrestru tenantiaid am gyfnod ôl-weithredol (retrospective period). Er mwyn i ni ystyried cais i gofrestru tenantiaid am gyfnod ôl-weithredol, fydd angen i ni weld tystiolaeth gefnogol llawn megis;

  • cytundebau tenantiaeth,
  • prawf bod rhent wedi'i dalu,
  • biliau cyfleustodau,
  • manylion cyswllt a chyfeiriad newydd y tenant,
  • manylion cyflogaeth,

Mae'n bosib y byddwn ni'n penderfynu nad oes digon o wybodaeth ar gael er mwyn ystyried cofrestru'r tenant ar gyfer Treth y Cyngor ac mae'n bosib y byddwn ni'n codi tâl arnoch chi ar gyfer y cyfnod dan sylw. Dyma pam mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i ni'n syth os yw tenantiaid yn gadael neu'n symud i mewn.