Skip to main content

Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) – Hysbysiad Cyhoeddus o Drwydded Ychwanegol – Rhondda Cynon Taf

Dyma hysbysiad bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar y 21ain o Ragfyr 2023 wedi cadarnhau dynodi cynllun trwyddedu ychwanegol mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth ar gyfer pob ward etholiadol yn Rhondda Cynon Taf.  Enw’r cynllun fydd Cynllun Trwyddedu Ychwanegol (Tai Amlfeddiannaeth) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2014 (“Y Cynllun”).  Mae cadarnhau’r dynodiad yn unol ag Adrannau 56 i 60 o Ddeddf Tai 2004, a Rheoliad 9 o Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaeth Amrywiol) (Cymru) 2006.

Mae’r cynllun y mae’r dynodiad yn berthnasol iddo wedi cael Cymeradwyaeth Gyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru dan y Ddeddf Tai 2004 (Trwyddedu HMO Ychwanegol Cymru). Daeth Cymeradwyaeth Cyffredinol 2007 i rym ar 13eg Mawrth 2007

Mae'r Cynllun yn cynnwys yr holl Dai Amlfeddiannaeth yn yr ardal sydd wedi'i nodi uchod, heblaw'r rhai sydd wedi'u heithrio gan adrannau perthnasol o'r Ddeddf a’r rheiny sy’n drwyddedadwy o dan y Gorchmynion a Rheoliadau yn unol ag Adran 55 (2)(a) o Ddeddf Tai 2004 (Trwyddedu Gorfodol).  Bydd y Cynllun yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024 ac os na fydd yn cael ei ddiddymu cyn hynny neu’i ymestyn, fe ddaw i ben ar 31ain Mawrth 2029.

Bydd Cynllun Trwyddedu Ychwanegol (Tai Amlfeddiannaeth) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2009 yn cael ei ddiddymu ar 31ain Mawrth 2024. Caiff trwyddedau a gyflwynwyd o dan y cynllun ac sy’n parhau mewn grym ar 31ain Mawrth 2024 eu trosglwyddo i’r cynllun newydd a byddan nhw’n parhau’n ddilys nes y byddan nhw’n dod i ben neu’n cael eu diddymu gan y Cyngor neu’u hildio.

Dylai unrhyw landlord, person sy’n rheoli neu denant yn Rhondda Cynon Taf ofyn am gyngor gan Garfan Materion Strategaeth a Safonau Tai, Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd ynglŷn â pha eiddo y mae’r Cynllun hwn yn effeithio arno.

Bydd rhaid i berson sydd â gofal dros HMO trwyddedadwy neu sy’n rheoli HMO yn yr ardal ddynodedig wneud cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am drwydded.

Mae methu â chyflwyno cais am drwydded yn drosedd o dan Adran 72(1), Deddf Tai 2004 a gallai hynny olygu dirwy o hyd at £20,000. Mae modd hefyd gyflwyno cais i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl i baratoi Gorchymyn Ad-dalu Rhent lle mae gofyn ad-dalu hyd at 12 mis o rent a gasglwyd yn ystod y cyfnod roedd yr eiddo heb drwydded.

Rhaid i'r cais am drwyddedu HMO fod mewn fformat rhagnodedig, gan gynnwys manylion penodol ac mae rhaid cynnwys y ffi angenrheidiol.

Mae gwybodaeth futher ynglŷn â dynodi'r cynllun newydd ar gael drwy gysylltu Tîm Safonau Tai, Tŷ Elái, Hen Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf, CF40 1NY; ffôn (01443) 425001; ebost: iechydycyhoeddathai@rctcbc.gov.uk